Giuseppe Conte

Oddi ar Wicipedia
Giuseppe Conte
GanwydGiuseppe Conte Edit this on Wikidata
8 Awst 1964 Edit this on Wikidata
Volturara Appula Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol La Sapienza
  • Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Iâl Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Giovanni Battista Ferri Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithegwr, gwleidydd, academydd, cyfreithiwr, cyfranogwr fforwm rhyngwladol Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog yr Eidal, Italian Minister of Education, Universities and Research Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Fflorens
  • Prifysgol Malta Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAnnibynnwr, Five Star Movement Edit this on Wikidata
PerthnasauEwa Aulin Edit this on Wikidata
Gwobr/augradd er anrhydedd Edit this on Wikidata
llofnod

Cyfreithegwr, academydd a gwleidydd Eidalaidd yw Giuseppe Conte (Ynganiad Eidaleg: [dʒuˈzɛppe ˈkonte]; ganwyd 8 Awst 1964) a fu'n Brif Weinidog yr Eidal o 1 Mehefin 2018[1] i 13 Chwefror 2021, ac sydd yn arweinydd y Mudiad Pum Seren (M5S) ers Awst 2021.

Ganed yn Volturara Appula, Talaith Foggia, yn rhanbarth Puglia. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Rhufain Sapienza ac ym mhrifysgolion Yale a Duquesne (Pittsburgh) yn Unol Daleithiau America. Ers y 1990au mae wedi addysgu ym Mhrifysgol Roma Tre a LUMSA yn Rhufain, ym Mhrifysgol Malta, ac ym Mhrifysgol Sassari yn Sardinia. Mae'n dal swydd athro'r gyfraith breifat ym Mhrifysgol Fflorens ac yn LUISS (Rhufain).

Enwebwyd Conte yn Brif Weinidog yr Eidal ar 21 Mai 2018 i arwain llywodraeth glymblaid y M5S a Lega Nord.[2] Wedi i'r ddwy blaid gytuno ar "gontract llywodraethol", ffurfiodd Conte ei gabinet cyntaf ar 1 Mehefin 2018.[3][4]

Ar 20 Awst 2019, cynigodd Conte ymddiswyddo'n Brif Weinidog wedi i'r Lega wneud cais am bleidlais diffyg hyder yn y llywodraeth.[5][6] Wedyn, cytunodd y M5S a'r Blaid Ddemocrataidd i ffurfio llywodraeth glymblaid newydd gyda Conte yn bennaeth arni.[7] Fe'i ailbenodwyd yn Brif Weinidog yr Eidal wedi iddo ffurfio'i ail gabinet ar 5 Medi.[8] Conte ydy'r gwleidydd cyntaf yn hanes Gweriniaeth yr Eidal i arwain ddwy llywodraeth yn yr un ddeddfwrfa, un gyda'r adain-dde ac un gyda'r adain-chwith.[9][10]

Cafodd cabinet cyntaf Conte, a oedd yn cynnwys arweinwyr M5S, Luigi Di Maio, a Lega Nord, Matteo Salvini, ei ystyried yn y llywodraeth boblyddol gyntaf yn hanes modern Gorllewin Ewrop.[11][12][13] Conte oedd y prif weinidog cyntaf yn yr Eidal heb brofiad o waith y llywodraeth neu weinyddiaeth gyhoeddus ers Silvio Berlusconi yn 1994, a'r prif weinidog cyntaf o dde'r Eidal ers Ciriaco De Mita yn 1989.[14][15] Yn ei araith gyntaf yn y brifweinidogaeth, galwodd Conte ei hun yn "gyfreithiwr y bobl" (l'avvocato del popolo), a ddefnyddir hwnnw yn llysenw arno.[16][17]

Yn Ionawr 2021, tynnodd y blaid ganolig Italia Viva ei chefnogaeth i lywodraeth Conte yn ôl, yn sgil beirniadaeth ynghylch y ffordd yr aeth i’r afael ag ymlediad y coronafeirws.[18] Er i Conte ennill bleidleisiau o ymddiriedaeth yn nwy siambr y senedd, penderfynodd ymddiswyddo am iddo beidio â sicrhau mwyafrif llwyr yn Senedd y Weriniaeth. Methiant a fu'r drafodaethau i ffurfio trydydd cabinet dan arweiniad Conte, felly ar 13 Chwefror 2021 ildiodd y brifweinidogaeth i Mario Draghi, cyn-Lywydd Banc Canolog Ewrop, a lwyddodd i ffurfio llywodraeth o undod cenedlaethol.

Yn sgil ei ymddiswyddo, ymunodd Conte â'r M5S ar 28 Chwefror 2021.[19] Daeth i gystadlu'r sefydlwr Beppe Grillo dros ddyfodol y blaid honno. O'r diwedd, cytunodd Conte a Grillo ar gyfaddawd, ac ar 5 Awst 2021 etholwyd Conte yn llywydd y M5S.[20] Fel arweinydd, anghytunodd Conte yn fynych â Luigi Di Maio, un o'i gwleidyddion amlycaf y blaid, ac ymrannodd Di Maio a'i gefnogwyr oddi ar y M5S ym Mehefin 2022, gan ffurfio Insieme per il Futuro (IpF).[21] Ar 13 Gorffennaf 2022, datganodd Conte y byddai'r M5S yn peidio â chefnogi'r llywodraeth o undod cenedlaethol, gan beri argyfwng gwleidyddol ac ymddiswyddiad Draghi. Yn yr etholiad disymwth a gynhaliwyd ar 25 Medi 2022, enillodd y M5S 15.4 y cant o'r bleidlais, ac etholwyd Conte i Siambr y Dirprwyon fel un o gynrychiolwyr Lombardia 1.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Eidaleg) "Raggiunto l'accordo per un governo M5S-Lega con Conte premier". L'HuffPost. 31 Mai 2018. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  2. (Saesneg) "Italy president names novice Giuseppe Conte as populist PM". BBC. 23 Mai 2018. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  3. (Saesneg) "M5S and League agree contract for Italy's 'government of change'". www.thelocal.it. 17 Mai 2018. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  4. (Eidaleg) "Giuramento governo: alle 16 Conte e i ministri al Quirinale". Il Sole 24 Ore. 31 Mai 2018. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  5. (Saesneg) Borrelli, Silvia Sciorilli (9 Awst 2019). "Matteo Salvini calls confidence vote in Italian PM". POLITICO. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  6. (Saesneg) Giuffrida, Angela (20 Awst 2019). "Italian PM resigns with attack on 'opportunist' Salvini". The Guardian. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  7. (Eidaleg) "Consultazioni, Mattarella convoca Conte per giovedì mattina: il premier al Colle alle 09:30". Tgcom24. 28 Awst 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Awst 2019. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  8. (Eidaleg) "Governo, Conte e i ministri hanno giurato al Quirinale. Nel primo Cdm la nomina di Gentiloni a Commissario Ue". la Repubblica. 5 Medi 2019. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  9. (Eidaleg) Antonucci, Maria Cristina (21 Medi 2019). "Da sinistra a destra, Conte fa (bene) il presidentissimo. Analisi di Antonucci". Formiche.net. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  10. (Eidaleg) ""Conte? Campione di trasformismo"". www.iltempo.it. 18 Medi 2019. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  11. (Eidaleg) "Italia primo governo populista in Europa occidentale". Adnkronos. 11 Mai 2018. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  12. (Saesneg) Eric J. Lyman (23 Mai 2018). "Giuseppe Conte: Italy's next PM to form western Europe's first populist government". USA Today. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  13. (Saesneg) "Opinion – The Populists Take Rome". The New York Times. 24 Mai 2018. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  14. (Eidaleg) Luca Serafini (25 Mai 2018). "Da Renzi a Conte: ecco chi sono i presidenti del Consiglio non eletti in parlamento". Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  15. (Eidaleg) "Da De Mita a Conte, l'incarico torna a sud di Roma dopo trent'anni". Il Sole 24 Ore. 24 Mai 2018. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  16. (Eidaleg) "Conte bis? I 15 mesi a palazzo Chigi dell' "avvocato del popolo" diventato leader politico". Il Sole 24 ORE. 27 Awst 2019. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  17. (Eidaleg) "Conte, l'avvocato del popolo strapazza il capitano - Primopiano". ANSA.it. 20 Awst 2019. Cyrchwyd 1 Chwefror 2020.
  18. "Prif weinidog yr Eidal wedi ymddiswyddo yn dilyn beirniadaeth", Golwg360 (26 Ionawr 2021). Adalwyd ar 14 Chwefror 2021.
  19. (Saesneg) Angelo Amante, "Italy’s former PM Conte accepts task of trying to revive 5-Star Movement", Reuters (28 Chwefror 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Ionawr 2023.
  20. (Eidaleg) "Giuseppe Conte è il nuovo presidente del M5s: oltre 62mila iscritti votano sì. L’ex premier: “Voglio restituire dignità alla politica”", Il Fatto Quotidiano (6 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Ionawr 2023.
  21. (Eidaleg) "Scissione M5s, il gruppo di Di Maio si chiamerà "Insieme per il futuro"", Il Foglio (23 Mehefin 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Ionawr 2023.