Crallo

Oddi ar Wicipedia
Crallo
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
MamSantes Canna Edit this on Wikidata
Eglwys Sant Crallo, Llangrallo ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Sant Celtaidd oedd Crallo (fl. tua'r 6g). Roedd yn fab i'r Santes Canna a Sant Sadwrn. Dywedir y daeth drosodd i dde Cymru o Lydaw i astudio yng nghlas Llanilltud Fawr.[1] Dethlir ei ddydd gŵyl ar 8 Awst.

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llangrallo ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan Sant Crallo. Ceir croesau eglwysig wedi'u cofrestru gan Cadw ym mynwent yr eglwys. Yn ôl rhai awdurdodau, mae'r groes yn nodi man claddu Crallo. Ceir Ffynnon Grallo ger yr eglwys.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 T.D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000), tud. 157.