Patricia Neal
Patricia Neal | |
---|---|
Patricia Neal yn 1954, llun gan Carl Van Vechten | |
Ganwyd | Patsy Louise Neal 20 Ionawr 1926 Packard |
Bu farw | 8 Awst 2010 Edgartown, Massachusetts |
Man preswyl | Edgartown, Massachusetts |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor llwyfan, actor |
Cyflogwr | |
Priod | Roald Dahl |
Plant | Lucy Dahl, Ophelia Dahl, Tessa Dahl, Olivia Dahl, Theo Dahl |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Golden Globe Award for Best Actress – Television Series Drama, Gwobrau Donaldson |
Actores Americanaidd oedd Patricia Neal (20 Ionawr 1926 – 8 Awst 2010), sydd wedi ennill nifer o wobrau am actio ar y llwyfan ac ar y sgrîn.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Patsy Louise Neal yn Packard, Whitley County, Kentucky. Magwyd hi yn Knoxville, Tennessee, ac astudiodd drama ym Mhrifysgol Northwestern. Ar ôl symud i Efrog Newydd, cafodd ei swydd gyntaf fel dirprwy actor yng nghynhyrchiad Broadway o The Voice of the Turtle. Yn fuan wedyn, ymddangosodd yn Another Part of the Forest (1946), gan ennill Gwobr Tony yr Actores Orau mewn Drama. Ymddangosodd hefyd yn adfywiad 1952 o ddrama The Children's Hour a The Miracle Worker (1959).
Ymddangosodd Neal mewn ffilm am y tro cyntaf ym 1948, yn John Loves Mary. Ymddangosodd yn ffilm The Fountainhead yr un flwyddyn gan gyd-serennu â'i chariad, Gary Cooper, a oedd yn briod ar y pryd; roedd ef yn 46 a hithau'n 21. Erbyn 1950, roedd gwraig Cooper, Veronica, wedi cael gwybod am y berthynas ac wedi anfon telegram at Neal yn mynnu eu bod yn dod a'r berthynas i ben. Beichiogodd Neal gan Cooper, ond perswadiodd ef iddi gael erthyliad,[1] teimlodd Neal yn euog am wneud hyn am flynyddoedd wedyn. Daeth y berthynas i ben, ond dim ond ar ôl i ferch Cooper, Maria (Maria Cooper Janis erbyn hyn, ganwyd 1937), boeri ati yn gyhoeddus. Blynyddoedd wedi marwolaeth Cooper, ailgymododd Maria a'i mam Veronica gyda Patricia Neal.
Cyfarfodd Neal yr awdur Prydeinig, Roald Dahl, mewn parti cinio a gynhaliwyd gan Lillian Hellman ym 1951. Priododd y pâr ar 2 Gorffennaf 1953, yn Eglwys y Drindod, Efrog Newydd. Cawsant bump o blant: Olivia Twenty (20 Ebrill 1955 – 17 Tachwedd 1962), a bu farw o measles encephalitis; Chantal Tessa Sophia; Theo Matthew (ganwyd 1960); Ophelia Magdalena; a Lucy Neal (ganwyd 1965).
Gweithiau
[golygu | golygu cod]Ffilm
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1949 | John Loves Mary | Mary McKinley | |
The Fountainhead | Dominique Francon | ||
It's a Great Feeling | Ei hun | cameo | |
The Hasty Heart | Sister Parker | ||
1950 | Bright Leaf | Margaret Jane Singleton | |
The Breaking Point | Leona Charles | ||
Three Secrets | Phyllis Horn | ||
1951 | Operation Pacific | Lt. (j.g.) Mary Stuart | |
Raton Pass | Ann Challon | ||
The Day the Earth Stood Still | Helen Benson | ||
Week-End with Father | Jean Bowen | ||
1952 | Diplomatic Courier | Joan Ross | |
Washington Story | Alice Kingsley | ||
Something for the Birds | Anne Richards | ||
1954 | Your Woman | Contessa Germana de Torri | |
Stranger from Venus | Susan North | ||
1957 | A Face in the Crowd | Marcia Jeffries | |
1961 | Breakfast at Tiffany's | 2-E (Mrs. Failenson) | |
1963 | Hud | Alma Brown | Gwobr Academi Actores Gorau; Gwobr BAFTA Award; Nomineiddwyd - Golden Globe |
1964 | Psyche '59 | Alison Crawford | |
1965 | In Harm's Way | Lt. Maggie Haynes | Gwobr BAFTA |
1968 | Pat Neal Is Back | Ei hun | Pwnc byr |
The Subject Was Roses | Nettie Cleary | Nomineiddwyd - Gwobr Academi Actores Gorau | |
1971 | The Night Digger | Maura Prince | |
1973 | Baxter! | Dr. Roberta Clemm | |
Happy Mother's Day, Love George | Cara | ||
1975 | B Must Die | Julia | |
1977 | Widow's Nest | Lupe | |
1979 | The Passage | Mrs. Bergson | |
1979 | All Quiet on the Western Front | Paul's Mother | |
1981 | Ghost Story | Stella Hawthorne | |
1989 | An Unremarkable Life | Frances McEllany | |
1991 | Preminger: Anatomy of a Filmmaker | Ei hun | Ffilm ddogfen |
1999 | Cookie's Fortune | Jewel Mae 'Cookie' Orcutt | |
From Russia to Hollywood: The 100-Year Odyssey of Chekhov and Shdanoff | Ei hun | Ffilm ddogfen | |
2000 | For the Love of May | Grammy May | Pwnc byr |
2003 | Broadway: The Golden Age, by the Legends Who Were There | Ei hun | Ffilm ddogfen |
Bright Leaves | Ei hun | Ffilm ddogfen | |
2008 | Shattered Glory | Mrs. Wyatt | cyn-gynhyrchu |
2009 | Flying By | Margie | ffilmio |
Teledu
[golygu | golygu cod]- Strindberg on Love (1960)
- Special for Women: Mother and Daughter (1961)
- The Homecoming: A Christmas Story (1971)
- Things in Their Season (1974)
- Eric (1975)
- Tail Gunner Joe (1977)
- A Love Affair: The Eleanor and Lou Gehrig Story (1978)
- The Bastard (1978) (miniseries)
- All Quiet on the Western Front (1979)
- The Patricia Neal Story (1981) (cameo)
- Love Leads the Way: A True Story (1984)
- Glitter (1984) (pilot ar gyfer y gyfres)
- Shattered Vows (1984)
- Caroline? (1990)
- A Mother's Right: The Elizabeth Morgan Story (1992)
- Heidi (1993)