Calendr Gregori

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Calendr Gregori ydy'r calendr mwyaf cyffredin drwy'r byd.[1][2][3] Cafodd ei dderbyn (yn answyddogol) fel y dull rhyngwladol o fesur amser a dyddiadau ers degawdau yn y byd cyfathrebu, teithio a diwydiant, a chaiff ei adnabod gan sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig.[4]

Fe'i mabwysiadwyd gan y Pab Gregory XIII ar 24 Chwefror 1582, er fod y ddogfen wreiddiol wedi'i dyddio '1581'.

Roedd y flwyddyn yn Y Calendr Iwliaidd, a wnaed yn nheyrnasiad Iŵl Cesar, yn cynnwys 365.25 o ddyddiau yn union, ond mae'r flwyddyn drofannol yn union 365.2422 diwrnod, felly pob 4 canrif roedd y Calendr Iwliaidd yn cynnwys tridiau yn ormod! Cafodd hyn ei gywiro yn y diwygiad Gregori yn 1582, sy'n cyflwyno'r dyddiau naid mewn dull gwahanol. O ganlyniad i hyn mae'r Calendr Iwlaidd 13 diwrnod y tu ôl i'r Calendr Gregori h.y. y 1af o Ionawr ar y Calendr Iwliaidd ydy'r 14eg ar y Calendr Gregori.

Roedd yr Eglwys Gatholig eisiau calendr a fyddai'n caniatáu iddynt ddathlu'r Pasg ar yr amser a benodwyd gan Gyngor Cyntaf Nicaea yn y flwyddyn 325, sef y dydd Sul wedi 14eg dydd y Lleuad sydd ar (neu wedi'r) Cyhydnos Wanwynol, tua 21 Mawrth yn amser y cyngor. Yn y flwyddyn 325 roedd y nam hwn wedi'i weld, ond, yn hytrach na thrwsio'r calendr symudodd y cyngor ddyddiad y Cyhydnos o 24 Mawrth neu 25 Mawrth i 21 Mawrth! Erbyn y 16eg canrif roedd y cyhydnos wedi symud llawer mwy a mynnodd yr Eglwys Babyddol ddiwygio'r drefn. Y gwledydd Pabyddol, felly, oedd y gwledydd cyntaf i fabwysiadu'r calendr newydd hwn.

Roedd dau newid sylfaenol felly yn y calendr newydd: yn gyntaf, addasu'r hen galendr Iwliaidd ac yn ail addasu calendr y lleuad a ddefnyddid gan yr eglwys i nodi dyddiadau'r Pasg. Meddyg o Galbria, sef Aloysius Lilius (neu Lilio), fu'n bennaf gyfrifol am y gwaith o'u cymhathu a'u diwygio. Yn gonglfaen i'w waith nododd fod angen lleihau'r nifer o ddyddiau naid o fewn pob pedair canrif o 100 i 97, gan wneud 3 allan o'r 4 blwyddyn yn gyffredin yn hytrach na blwyddyn naid.

Nodwyd hyn fel a ganlyn:

Os medrid rhannu'r flwyddyn gyda 4 - yn union - yna fe'i hystyrir yn flwyddyn naid, ar wahân i'r blynyddoedd a ellir eu rhannu gyda 100 (yn union). Ar ben hyn, mae'r blynyddoedd hynny y gellir eu rhannu gyda 400 hefyd yn flynyddoedd naid. Er enghraifft, nid ydy'r flwyddyn 1900 yn flwyddyn naid ond mae'r flwyddyn 2000 yn flwyddyn naid.[5]

Calendr solar ydyw ef mewn gwirionedd. Mae bwyddyn Gregori'n cynnwys 365 diwrnod, ac mewn blwyddyn naid ceir diwrnod naid, sef 29 Chwefror sy'n gwneud cyfanswm o 366 diwrnod. Fel arfer mae blwyddyn naid yn diwgwydd pob pedair mlynedd ond mae'r Calendr Gregori'n gadael allan 3 diwrnod naid pob 400 mlynedd, yn wahanol i'r calendr a'i ragflaenodd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Introduction to Calendars. United States Naval Observatory. Retrieved 15 January 2009.
  2. Calendars by L. E. Doggett. Section 2.
  3. Dyma'r ffurf safonol rhyngwladol ar gyfer amser a dyddiadau yn ôl ISO 8601, Adran 3.2.1.
  4. Eastman, Allan. "A Month of Sundays". Date and Time. Archived from the original on 2010-05-06. http://www.timeanddate.com/newsletter/all-the-time/a-month-of-sundays5.html. Adalwyd 2010-05-04. 
  5. Introduction to Calendars. (13 Medi 2007). United States Naval Observatory.

Gweler hefyd[golygu]