Kieffer Moore
Moore yn 2025 | |||
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Dyddiad geni | 8 Awst 1992 | ||
| Man geni | Torquay, Lloegr | ||
| Taldra | 6 tr 5 mod (1.96 m)[1] | ||
| Safle | Ymosodwr | ||
| Y Clwb | |||
| Clwb presennol | Wrecsam | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 2012–2013 | Truro City | 22 | (13) |
| 2013 | Dorchester Town | 13 | (7) |
| 2013–2015 | Yeovil Town | 50 | (7) |
| 2015–2016 | Viking | 9 | (0) |
| 2016–2017 | Forest Green Rovers | 33 | (7) |
| 2016 | → Torquay United (loan) | 4 | (5) |
| 2017–2018 | Ipswich Town | 11 | (0) |
| 2017–2018 | → Rotherham United (loan) | 22 | (13) |
| 2018–2019 | Barnsley | 51 | (21) |
| 2019–2020 | Wigan Athletic | 36 | (10) |
| 2020–2022 | Dinas Caerdydd | 64 | (25) |
| 2022–2024 | AFC Bournemouth | 39 | (9) |
| 2024 | → Ipswich Town (ar fenthyg) | 18 | (7) |
| 2024–2025 | Sheffield United | 27 | (5) |
| 2025– | Wrecsam | 28 | (10) |
| Tîm Cenedlaethol‡ | |||
| 2016 | Tîm Lloegr C | 1 | (0) |
| 2019– | Cymru | 52 | (15) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 7 Chwefror 2026 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Mae Kieffer Roberto Francisco Moore (ganed 8 Awst 1992 yn Torquay, Lloegr) yn bêl-droediwr sy'n chwarae i Gymru sydd wedi chwarae fel ymosodwr ac amddiffynnwr. Yn 2019 roedd yn chwarae gydag Wigan Athletic F.C..
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Moore yn Torbay, swydd Dyfnaint ac mae wedi chwarae i sawl tîm mewn sawl gwahanol haen o bêl-droed Lloegr gan gynnwys cyfnod yn Norwy. Chwaraeodd i dîm ieuectid Torbay cyn symud i chwarae i Truro, prifddinas Cernyw ac yna Dorchester. Yn ystod ei gyfnod gyda'r clybiau yma fel chwaraewr lled-broffesiynnol enillodd rhagor o gyfnod fel lifeguard ac hyfforddwr ffitrwydd personol.[2]
Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]Ym Mehefin 2013 ymunodd Moore â Yeovil Town F.C. Ar 3 Awst 2015 symudodd i Uwch Gynghrair Norwy, gyda'r clwb Viking F.K. yn Stavanger gan chwarae naw gêm.[3]
Dychwelodd o Norwy i Loegr gan chwarae am gyfnodau byr gyda Forest Green Rovers ac yna Torbay United F.C. Ar 15 Ionawr 2017, ymunodd â chlwb Ipswich Town F.C. ym mis Ionawr 2017.
Ar 10 Gorffennaf 2017, mae ar fenthyg i Rotherham United F.C., gan sgorio 13 gôl mewn 25 gêm.
Ar 8 Ionawr 2018, ymunodd â Barnsley F.C..
Ar 5 Awst 2019, ymunodd â Wigan Athletic F.C. tîm yn adran Championship (ail adran) Lloegr am sŵm na ddatgelwyr.[4]
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Er i Moore ennill cap gydag England C (a adwaenir yn gynt fel "England National Game XI" a'r "England Semi-Pro") yn 2016, dewisodd chwarae i Gymru. Roedd yn gallu cymwyso i chwarae i Gymru drwy ei fam-gu o Gymraeg ar ochr ei fam.[5] Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn y gêm yn erbyn Belarws ym mis Medi 2019.[2] Nododd mewn cyfweliad gyda'r BBC bod ei esgyniad drwy adrannau rhan-amser a bod yn warchodwr y glannau i chwarae pêl-droed ryngwladol i Gymru yn "swreal".[2] Sgoriodd unig gôl Cymru yn y gêm gyfartal rhwng Cymru a Slofacia yn Trnava.[6]
Ymateb ffans Cymru
[golygu | golygu cod]Yn dilyn ei gôl gyntaf i Gymru yn y gêm yn erbyn Slofacia ar 10 Hydref 2019, dathlwyd ei gamp gan gefnogwyr Cymru. Cyfarchodd cyfrif Twitter Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei gôl gyda'r geiriau "Kieffer Mawr".[7] Cafwyd hefyd amrywiad ar dôn Cwm Rhondda:[8]
Head of heaven
Six foot seven
Feeeeed me till I'm Kieffer Moore (Kieffer Moore)
Feeeeed me till I'm Kieffer Moore
Rhyngwladol
[golygu | golygu cod]- Diweddarwyd match played 4 Medi 2025[9]
| Tîm cenedlaethol | Blwyddyn | Ymddangos | Goliau |
|---|---|---|---|
| Cymru | 2019 | 5 | 2 |
| 2020 | 7 | 2 | |
| 2021 | 12 | 4 | |
| 2022 | 7 | 1 | |
| 2023 | 8 | 3 | |
| 2024 | 8 | 1 | |
| 2025 | 3 | 2 | |
| Cyfanswm | 50 | 15 | |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Yeovil Town: Gary Johnson sees Kieffer Moore potential". BBC Sport. 8 July 2013. Cyrchwyd 8 July 2013.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 https://www.bbc.co.uk/sport/football/49953930
- ↑ "KIEFFER KLAR FOR VIKING" [Kieffer ready for Viking] (yn Norwyeg). Viking FK. 3 August 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 August 2015. Cyrchwyd 3 August 2015.
- ↑ "Kieffer Moore: Wigan Athletic sign striker from Barnsley for undisclosed fee". BBC Sport. 5 August 2019. Cyrchwyd 5 August 2019.
- ↑ "Kieffer Moore: Uncapped Barnsley striker in Wales training squad for Portugal". BBC Sport. 21 May 2019.
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/50005054
- ↑ https://twitter.com/Cymru/status/1182376347445989376
- ↑ https://twitter.com/hrj2605/status/1182406428348354565
- ↑ National-Football-Teams.com