Robert Peel

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Robert Peel
Sir Robert Peel, 2nd Bt by John Linnell.jpg
Ganwyd5 Chwefror 1788 Edit this on Wikidata
Ramsbottom Edit this on Wikidata
Bu farw2 Gorffennaf 1850 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, casglwr celf Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Arweinydd yr Wrthblaid, Canghellor y Trysorlys, Ysgrifennydd Cartref, Aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Ysgrifennydd Cartref, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolY Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadSir Robert Peel, 1st Baronet Edit this on Wikidata
MamEllen Yates Edit this on Wikidata
PriodJulia Peel Edit this on Wikidata
PlantArthur Peel, Sir Robert Peel, 3rd Baronet, William Peel, Julia Child-Villiers, Countess of Jersey, Frederick Peel, John Floyd Peel, Eliza Peel Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata
Llofnod
Robert Peel Signature.svg

Sylfaenydd y Blaid Geidwadol fodern oedd Syr Robert Peel (5 Chwefror 17882 Gorffennaf 1850), Prif Weinidog y Deyrnas Unedig rhwng Rhagfyr 1834, ac Ebrill 1835 a rhwng Awst 1841, a Mehefin 1846.

Fel Ysgrifennydd Cartref creodd Heddlu Metropolitan, Llundain yn 1829 (heddlu ffurfiol cyntaf Prydain). Gyda Dug Wellington diddymodd y Deddfau Penyd gan Ryddfreinio Catholigion yn 1829. Ail-greodd y blaid Dorïaid (a elwir yn y Blaid Geidwadol yn gynyddol) yn dilyn trechiad etholiadol 1832, gan Ddiddymu'r Deddfau Ŷd yn 1845 yn ystod ei ail-weinidogaeth. Trechwyd gan ei blaid ei hun dros y mater, gan arwain i'w ymddiswyddiad yn 1846 a rhwyg yn y blaid Geidwadol. Cymaint oedd ei ddylanwad, yn aml elwir y cyfnod rhwng Deddf Diwygio 1832 a'i ymddiswyddiad fel Prif Weinidog yn 1846 yn Oes Peel, er iddo fod yn Brif Weinidog am ond pum mlynedd yn gyfan gwbl.[1]

Cefndir a blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd yn Chamber Hall, Bury, Swydd Gaerhirfryn, ar y 3ydd o Chwefror 1788. Roedd yn drydydd mab i'w dad, hefyd o'r enw Robert Peel, AS Torïaidd a oedd yn gyfrifol am Deddf Ffactori yn 1802. Diwydianwyr oedd ei deulu, a chafodd ei ddisgrifio gyda chryn snobyddiaeth gan Dug Wellington fel dyn o "low birth and vulgar manners."

I geisio gwrthdroi'r fath syniadau, megis nifer o blant nouveau riche eraill oedd yn ceisio esgyn ym myd y tirfeddianwyr traddodiadol, anfonwyd fab i ysgol fonedd Harrow yn 1800. Dechreuodd ei astudiaethau yng ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen yn 1805 lle daeth yn fyfyriwr galluog. Erbyn 1809 – ar argymhellant Arthur Wellesley, yr un dyn a ddaeth i fod y Dug Wellington a ddisgrifiodd dras Peel mor snobyddlyd – roedd yn aelod seneddol â sedd Gwyddelig Ddinas Cashel, bwrdeistref ag ond dau ddeg pedwar o bleidleisiwr. Dyma oedd dechreuad dau thema pwysig ym mywyd Peel – ei bartneriaeth â'r Dug Wellington a chysylltiad ei yrfa wleidyddol i Iwerddon.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Syr Robert Peel
Cerflun ohono yn Bury

Nid oedd pleidiau gwleidyddol ffurfiol i'w cael ym mlynyddoedd cynnar y 19g, ond roedd dwy brif garfan yn y Senedd, sef y Chwigiaid a'r Torïaid. Er bod y ddwy garfan yn geidwadol iawn wrth safonau heddiw, roedd y Chwigiaid fel arfer yn fwy cefnogol i newid. Roedd yn Torïaid yn canolbwyntio'n draddodiadol ar amddiffyn Eglwys Loegr rhag Catholigiaeth ac Anghydffurfiaeth, ac ar amddiffyn buddiannau tirfeddianwyr cefn gwlad rhag masnachwyr y trefi. Credodd Robert Peel bod rhaid i hyn newid er mwyn i Dorïaeth oroesi.

Yn 1829, fe gafodd ei wrthdrawiad cyhoeddus cyntaf gyda'i gyd-Dorïaid - arwydd o gwrs dyfodol ei yrfa. Yn y flwyddyn honno, Peel a lywiodd y Mesur Rhyddfreinio Catholigion trwy'r Senedd, gan ganiatáu i Gatholigion ddod yn Aelodau Seneddol am y tro cyntaf. Roedd llawer o'i gyd-Dorïaid yn gweld hyn yn frad ac yn ergyd i oruchfiaeth Eglwys Loegr. Roedd rhai yn cyhuddo Peel o fradychu ei egwyddorion personol trwy gyflwyno'r Mesur, gan ei fod wedi'i wrthwynebu am ugain mlynedd. Yn wir, cymaint oedd ei ei wrth-Gatholigaeth ar un adeg nes iddo ennill y llysenw "Organge Peel" (cyfeiriad at yr Urdd Oren Protestanaidd). Ond roedd cefnogaeth fawr i'r Mesur yn Iwerddon (rhan o'r Deyrnas Unedig ar y pryd) lle roedd 80% o'r boblogaeth yn Gatholigion.

Trwy Faniffesto Tamworth yn 1834, fe osododd yn ffurfiol seiliau ei Geidwadaeth newydd, a fyddai'n cydnabod buddiannau llawer ehangach na'r hen Dorïaeth. Yn y ddogfen hon, fe dderbynniodd Ddeddf Ddiwygio 1832 - y Great Reform Act - y ddeddf a roddodd y bleidlais i ddosbarth canol y trefi. Newid mawr iawn oedd hwn o bolisi blaenorol y Torïaid, er bod Peel yn credu nad oedd dim angen estyn y bleidlais ymhellach, ac roedd e'n hollol wrthwynebus i ddemocratiaeth.

Dywedodd hefyd ym Maniffesto Tamworth ei fod am gytbwyso buddiannau amaeth, masnach a diwydiant, newid mawr arall o hen bwyslais y Torïaid ar y landed interest.

Ymhlith ei waith pwysicaf fel Prif Weinidog roedd deddf yn 1842 i wahardd menywod a phlant rhag gweithio dan ddaear yn y pyllau, a deddf yn 1844 yn lleihau oriau gwaith gweithwyr y ffatrïoedd. At hynny, fe dynnodd tua chant o droseddau oddi ar y rhestr o bethau y gallai rhywun gael ei grogi amdanynt - cyn hynny roedd smalio bod yn un o Bensiynwyr Chelsea yn gallu arwain at y gosb eithaf.

Cadarnhaodd Peel yn 1846 na fyddai'r Geidwadaeth newydd yn was bach i'r tirfeddianwyr pan ddileuodd y Deddfau Ŷd. Roedd y deddfau hyn yn symbol o rym tirfeddianwyr cefn gwlad, gan warantu pris uchel am ŷd, ac arwain felly, yn ôl rhai, at fara drud i bobl y trefi.

Mae hefyd yn nodedig am greu Heddlu Llundain - y Metropolitan Police - yn 1829, yr heddlu ffurfiol cyntaf ym Mhrydain. Roedd y plismyn cyntaf weithiau'n cael eu galw'n Peelers neu Bobbies ar ei ôl e.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]