Boris Johnson

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Boris Johnson
AS
Boris Johnson official portrait (cropped).jpg
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
Yn ei swydd
24 Gorffennaf 2019 – 6 Medi 2022
TeyrnElisabeth II
DirprwyDominic Raab
Rhagflaenwyd ganTheresa May
Dilynwyd ganLiz Truss
Arweinydd y Blaid Geidwadol
Yn ei swydd
23 Gorffennaf 2019 – 5 Medi 2022
Rhagflaenwyd ganTheresa May
Dilynwyd ganLiz Truss
Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad
Yn ei swydd
13 Gorffennaf 2016 – 9 Gorffennaf 2018
Prif WeinidogTheresa May
Rhagflaenwyd ganPhilip Hammond
Dilynwyd ganJeremy Hunt
Aelod Seneddol
dros Uxbridge a South Ruislip
Deiliad
Cychwyn y swydd
7 Mai 2015
Rhagflaenwyd ganJohn Randall
Mwyafrif10,695 (23.9%)
Maer Llundain
Yn ei swydd
4 Mai 2008 – 9 Mai 2016
DirprwyRichard Barnes
Victoria Borwick
Roger Evans
Rhagflaenwyd ganKen Livingstone
Dilynwyd ganSadiq Khan
Aelod Seneddol
dros Henley
Yn ei swydd
9 Mehefin 2001 – 4 Mehefin 2008
Rhagflaenwyd ganMichael Heseltine
Dilynwyd ganJohn Howell
Manylion personol
GanwydAlexander Boris de Pfeffel Johnson
(1964-06-19) 19 Mehefin 1964 (58 oed)
Manhattan, Dinas Efrog Newydd, Unol Daleithiau
Plaid wleidyddolCeidwadwyr
PriodAllegra Mostyn-Owen (1987–1993)
Marina Wheeler (1993–gwahanwyd 2018)
Carrie Symonds (2021–presennol)
Plant6 neu 7[1][2][3]
Rhieni
Perthnasau
Alma materColeg Balliol, Rhydychen
GwefanGwefan Ty'r Cyffredin

Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ac arweinydd Y Blaid Geidwadol (DU) ers Gorffennaf 2019 - Medi 2022 yw Alexander Boris de Pfeffel Johnson (ganwyd 19 Mehefin 1964 yn Ninas Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau). Fe'i adnabyddir yn well fel Boris Johnson ac fel cymeriad lliwgar a gwahanol i'r rhan fwyaf o wleidyddion. Mae'n gyn Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig a newyddiadurwr. Mae'n dweud ei farn, doed a ddelo, ac yn berson dadleuol a charismatig sydd wedi cyffesu iddo ef ei hun, yn y gorffennol, smocio cannabis; cred y dylid cyfreithloni'r cyffur ar gyfer defnydd meddygol.[4][5]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Boris Johnson yn Manhattan, Efrog Newydd, yn fab i'r gwleidydd Ceidwadol Stanley Johnson a chofrestwryd ef gyda phasport deuol (UDA a DU).[6] Ar y pryd roedd ei dad yn astudio economeg ym Mhrifysgol Columbia.[7] Roedd tad Stanley (Ali Kemal) yn newyddiadurwr o Dwrci. Roedd ei fam o waed cymysg: Saesnig, Rwsieg, Iddewig a Ffrengig.[8] Brawd Jo Johnson a Rachel Johnson yw ef.

Mynychodd Johnson Ysgol Ewropead, Brwsel, Gwlad Belg; Ysgol Ashdown House, Sussex, a Choleg Eton, Windsor. Darllenodd y Clasuron yng Ngholeg Balliol, Rhydychen a bu'n Llywydd Undeb Rhydychen, y gymdeithas drafod uchel ael.

Newyddiaduriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Johnson wedi gweithio fel newyddiadur i sawl cyhoeddiad, cyn ac yn ystod ei amser fel gwleidydd. Dechreuodd ei yrfa gyda'r Times, cyn cael ei ddiswyddo am ei fod wedi ffugio dyfyniad.[9] Symudodd wedyn i'r Telegraph, lle gweithiodd fel colofnydd gwleidyddol. Ymysg ei waith oedd darn golygyddol ar ôl i Gordon Brown ddod yn Brif Weinidog heb etholiad cyffredinol, yn cwyno am ddiffyg cyfreithlondeb democrataidd ac yn galw am etholiad cyffredinol ar unwaith.[10] Gweithiodd hefyd fel golygydd i'r Spectator. Yn y swydd hwnnw, creodd ddadl enwog pan ganiataodd gyhoeddu darn a gyhuddodd bobl Lerpwl o "wallowing in victim status" ar ôl trychineb Hillsborough a marwolaeth Ken Bigley, ac ailadroddodd honiadau'r Sun bod ymddygiad cefnogwyr Lerpwl wedi cyfrannu at y trychineb.[11] Gorfodwyd ef gan Michael Howard, arweinydd y blaid Ceidwadwyr ar y pryd, i deithio i Lerpwl er mwyn ymddiheuro am yr erthygl.[12]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Methodd ag ennill sedd De Clwyd yn etholiad cyffredinol 1997.

Bu'n olygydd y Spectator rhwng 1999 a Rhagfyr 2005. Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol dros etholaeth Henley yn Swydd Rydychen yn 2001, o dan Michael Howard a David Cameron, ac ymunodd â Chabined yr Wrthblaid fel Gweinidog dros Ddiwylliant, y Diwydiant Creadigol ac yna Addysg Uwch.

Maer Llundain[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei ethol yn Faer Llundain ar 2 Mai 2008 wedi iddo drechu cynrychiolydd y Blaid Lafur, Ken Livingstone; ymddiswyddodd ar unwaith fel Aelod Seneddol. Ar unwaith, aeth ati i wahardd alcohol o fannau cyhoeddus, a chwblhaodd gynllun oedd wedi'i ddechrau gan Livingstone[13] i greu rhwydwaith o feics i'w llogi, a alwyd yn "Boris Bikes" yn anffurfiol. Enillodd ail dymor o bedair blynedd fel Maer yn 2012, gan drechu Livingstone eilwaith; yn ystod yr ail dymor, cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 2012. Ni chystadleuodd y drydedd waith; yn hytrach cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Uxbridge a De Ruislip yn Etholiad cyffredinol 2015, a gadawodd ei waith fel Maer.

Prif Weinidog y Deyrnas Unedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholwyd Johnson yn arweinydd y blaid Geidwadol ar 23 Gorffennaf 2019. Y diwrnod canlynol, ymddiswyddodd Theresa May fel Prif Weinidog. Dywedodd Johnson y byddai’n sicrhau bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref 2019, hyd yn oed pe na bai cytundeb yn cael ei wneud.[14][15] Ym mis Medi 2019 ymddiswyddodd ei frawd Jo Johnson o’r llywodraeth a chyhoeddi y byddai’n camu i lawr fel AS oherwydd y gwrthdaro rhwng buddiannau teuluol a gwleidyddol.[16]

Ar ôl yr Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019, roedd gan y Ceidwadwyr fwyafrif o 80 sedd yn y Senedd San Steffan. Ar 31 Ionawr 2020 gadawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd ac yn cychwyn y Cyfnod Pontio. Bu nifer o sgandalau yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog, gan gynnwys "Partygate", a ddatgelwyd gan y newyddiadurwr Cymreig Paul Brand.[17]

O'r diwedd collodd Johnson hyder y Blaid Geidwadol ym mis Gorffennaf 2022 a chafodd ei orfodi i ymddiswyddo. Dwedodd Mark Drakeford: "I’m pleased the prime minister has now done the right thing and agreed to resign. All four nations need a stable UK government. The way to achieve that is by a general election so the decision about the next prime minister is made by the people and not by the narrow membership of the Conservative party."[18] Ymddiswyddodd Johnson fel arweinydd y blaid Geidwadol ond gwrthododd ymddiswyddo fel prif weinidog tan ar ôl cynhadledd y blaid.[19] Ar 8 Gorffennaf, dywedodd yr Aelod Seneddol Cymreig Liz Saville Roberts y dylid canslo gwyliau'r haf yn San Steffan er mwyn “cadw sgwatiwr Prif Weinidog yn onest”.[20]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Buchan, Lizzy (29 Tachwedd 2019). "Boris Johnson refuses to say how many children he has in live radio interview". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Tachwedd 2019.
  2. Walker, Peter (29 Tachwedd 2019). "Johnson dodges LBC radio host's questions about his children". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Tachwedd 2019.
  3. Proctor, Kate (29 Ebrill 2020). "Boris Johnson and Carrie Symonds announce birth of baby boy". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Ebrill 2020.
  4. "Boris: I took cocaine and cannabis". Oxford Mail. 4 Mehefin 2007. Cyrchwyd 8 Hydref 2012.
  5. "Boris Johnson: Legalise cannabis for pain relief". The Daily Telegraph. London. 24 April 2008. Cyrchwyd 8 Hydref 2012.
  6. Purnell 2011, p. 10; Gimson 2012, p. 1.
  7. Purnell 2011, p. 11; Gimson 2012, p. 2.
  8. Interview: Boris Johnson – my Jewish credentials Archifwyd 19 May 2015[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback., The Jewish Chronicle, Daniella Peled, April 2008
  9. Purnell, Sonia (2011). Just Boris: Boris Johnson: The Irresistible Rise of a Political Celebrity. London: Aurum Press Ltd. ISBN 978-1-84513-665-9., tud. 100-102
  10. https://www.telegraph.co.uk/comment/personal-view/3640768/Browns-looking-for-a-Scottish-ally.html
  11. https://www.spectator.co.uk/2004/10/bigleys-fate/
  12. https://www.standard.co.uk/news/boris-goes-to-liverpool-to-say-sorry-6955468.html
  13. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-01. Cyrchwyd 2019-08-01.
  14. Sparrow, Andrew (24 Gorffennaf 2019). "Boris Johnson cabinet: Sajid Javid, Priti Patel and Dominic Raab given top jobs – live news". The Guardian (yn Saesneg).
  15. Westlake, M. (2020). Outside the EU: Options for Britain (yn Saesneg). Agenda Publishing. tt. 168–169. ISBN 978-1-78821-312-7. JSTOR j.ctv16qjx9d.20.
  16. "PM's brother quits as Tory MP and minister". BBC News (yn Saesneg). 5 Medi 2019. Cyrchwyd 5 Medi 2019.
  17. Graeme Demianyk (25 Mai 2022). "'Are You A Liar?': Journalist Confronts Boris Johnson Over Partygate Claim". Huffington Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2022.
  18. Ruth Mosalski (7 Gorffennaf 2022). "Mark Drakeford calls for a General Election as Boris Johnson set to resign". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2022.
  19. Amos, Owen (7 Gorffennaf 2022). "Boris Johnson resigns: Five things that led to the PM's downfall". BBC News (yn Saesneg). BBC. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2022.
  20. "Galw am ganslo gwyliau haf San Steffan: "Cadwch y sgwatiwr o Brif Weinidog yn onest"". Golwg 360. 8 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2022.
Rhagflaenydd:
Frank Johnson
Golygydd The Spectator
19992005
Olynydd:
Matthew d'Ancona
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Michael Heseltine
Aelod Seneddol dros Henley
20012008
Olynydd:
John Howell
Rhagflaenydd:
John Randall
Aelod Seneddol dros Uxbridge a De Ruislip
2015–presennol
Olynydd:
deiliad
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Ken Livingstone
Maer Llundain
4 Mai 20088 Mai 2016
Olynydd:
Sadiq Khan
Rhagflaenydd:
Theresa May
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
24 Gorffennaf 20196 Medi 2022
Olynydd:
Liz Truss