Liz Truss

Oddi ar Wicipedia
Liz Truss
Ganwyd26 Gorffennaf 1975 Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
Man preswylThetford, Burnaby Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyfrifydd Edit this on Wikidata
SwyddYsgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, Arglwydd Ganghellor, Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldebau, Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, Llywydd y Bwrdd Masnach, Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad, Arweinydd y Blaid Geidwadol, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Prif Arglwydd y Trysorlys, Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, Gweinidog dros yr Undeb, president of the Oxford University Liberal Democrats Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBritannia Unchained Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadMargaret Thatcher Edit this on Wikidata
Taldra165.7 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol, y Democratiaid Rhyddfrydol Edit this on Wikidata
TadJohn Truss Edit this on Wikidata
MamPriscilla Mary Grasby Edit this on Wikidata
PriodHugh O'Leary Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.elizabethtruss.com Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd Prydeinig yw Mary Elizabeth "Liz" Truss (ganwyd 26 Gorffennaf 1975)[1] a fu'n brif weinidog y Deyrnas Unedig rhwng 6 Medi 2022 a 25 Hydref 2022, y cyfnod lleiaf yn y swydd yn hanes y DU. Roedd hi'n aelod o'r Cabinet o dan y prif weinidogion David Cameron, Theresa May a Boris Johnson. Roedd hi'n ysgrifennydd tramor rhwng 2021 a 2022. Mae Truss wedi bod yn Aelod Seneddol (AS) dros Dde Orllewin Norfolk ers 2010.

Cafodd Truss ei geni yn Rhydychen, lle bu'n arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Prifysgol Rhydychen. Roedd ei thad mewn trallod pan ymunodd â'r Blaid Geidwadol. Roedd ei mam yn aelod o'r CND, ond cytunodd i gefnogi ymgyrch ei merch i ddod yn AS.[2][3]

Cyhoeddodd ei hymddiswyddiad fel prif weinidog ar 20 Hydref 2022, ar ôl 45 diwrnod yn y swydd, ond parhaodd yn y swydd nes i'w olynydd ei dewis.[4][5] Hi oedd y prif weinidog oedd yn y swydd am y cyfnod byrraf yn hanes y Deyrnas Unedig.[6] Ar 24 Hydref 2022 etholwyd Rishi Sunak fel ei olynydd, yn arweinydd y Blaid Geidwadol, a daeth yn Brif Weinidog y diwrnod canlynol.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Who is Liz Truss? From teenage Lib Dem to Tory PM". BBC News (yn Saesneg). 6 Medi 2022. Cyrchwyd 7 Medi 2022.
  2. "Liz Truss's Dad is said to be 'distraught' by his daughter's own policies". Indy100. 1 Awst 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Awst 2022. Cyrchwyd 22 Awst 2022.
  3. "Profile: Elizabeth Truss". The Sunday Times. 8 Tachwedd 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2012.
  4. "Liz Truss resigns as prime minister". Sky News (yn Saesneg). 20 Hydref 2022. Cyrchwyd 20 Hydref 2022.
  5. Ta-ta Liz Truss - Arweinydd y Ceidwadwyr wedi ymddiswyddo, gan ddweud y bydd etholiad arweinyddol o fewn wythnos , Golwg360, 20 Hydref 2022.
  6. "Who is Liz Truss? Political journey of UK's shortest-serving prime minister". BBC News (yn Saesneg). 20 Hydref 2022. Cyrchwyd 21 Hydref 2022.
  7. Rishi Sunak yw arweinydd newydd y Ceidwadwyr , Golwg360, 24 Hydref 2022.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Boris Johnson
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
6 Medi 202225 Hydref 2022
Olynydd:
Rishi Sunak