Mark Drakeford

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mark Drakeford
AC
Mark Drakeford - National Assembly for Wales.jpg
Drakeford yn 2011
Prif Weinidog Cymru
Yn ei swydd
13 Rhagfyr 2018
Teyrn Elizabeth II
Rhagflaenydd Carwyn Jones
Arweinydd Llafur Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Rhagfyr 2018
Dirprwy Carolyn Harris
Arweinydd Jeremy Corbyn
Rhagflaenwyd gan Carwyn Jones
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Deiliad
Cychwyn y swydd
19 Mai 2016
Prif Weinidog Carwyn Jones
Rhagflaenwyd gan Jane Hutt
Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mewn swydd
14 Mawrth 2013 – 19 Mai 2016
Prif Weinidog Carwyn Jones
Dirprwy Vaughan Gething
Rhagflaenwyd gan Lesley Griffiths
Dilynwyd gan Vaughan Gething
Aelod o Cynulliad Cenedlaethol Cymru
dros Gorllewin Caerdydd
Deiliad
Cychwyn y swydd
5 Mai 2011
Rhagflaenwyd gan Rhodri Morgan
Mwyafrif 1,176
Manylion personol
Ganwyd (1954-09-19) 19 Medi 1954 (65 oed)
Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Plaid wleidyddol Llafur
Alma mater Prifysgol Caint

Gwleidydd ac academydd Cymreig yw Mark Drakeford (ganwyd 19 Medi 1954) sy'n Brif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru ers 2018. Mae wedi gwasanaethu fel Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd ers 2011 ac roedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn Llywodraeth Cymru rhwng 2016 a 2018.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd a magwyd Mark Drakeford yn Sir Gaerfyrddin, Gorllewin Cymru, cyn symud i Gaerdydd. Ers hynny mae wedi byw yn ardal Pontcanna yng Ngorllewin Caerdydd, gyda'i wraig a'i blant.[1] Bu'n gweithio fel swyddog prawf, yn weithiwr cyfiawnder ieuenctid ac arweinydd prosiect Barnardo's yn ardaloedd Elai a Chaerau o Gaerdydd.[1] Ar ôl cyfnod yn gweithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe,[2][3] dychwelodd i weithio yng Nghaerdydd, lle ddaeth yn Athro Polisi Cymdeithasol a Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2003.[3] Mae wedi ysgrifennu a chyhoeddi nifer o lyfrau ac erthyglau o gyfnodolion ar wahanol agweddau ar bolisi cymdeithasol.[4]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd gan Drakeford ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth erioed, a dywedodd ei fod yn rhan o ffabrig bywyd yn y 1960au yn sir Gaerfyrddin.[5] Roedd yn gynghorydd Plaid Lafur ar Gyngor Sir De Morgannwg dros ardal Pontcanna o 1985 – 1993, gan arbenigo mewn materion addysg, gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg.[5]

Rhwng 2000 a 2010 bu'n gweithio fel cynghorydd ar iechyd a pholisi chymdeithasol i Gabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac yn ddiweddarach yn bennaeth gwleidyddol swyddfa'r Prif Weinidog yn ystod cyfnod Rhodri Morgan fel Prif Weinidog.[1][3] Daeth Drakeford yn aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol pan enillodd sedd Gorllewin Caerdydd ym Mai 2011, gan olynu Rhodri Morgan. Yn fuan ar ôl ei ethol, daeth yn Gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad, yn ogystal a Cadeirydd y Pwyllgor Rhaglen Monitro Traws-Cymru ar gyfer cronfeydd Ewropeaidd.[6]

Penodwyd Drakeford fel y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn ad-drefnu'r cabinet ar 14 Mawrth 2013. Cafodd ei benodiad ei groesawu gan y Gymdeithas Feddygol Prydeinig a'r Coleg Nyrsio Brenhinol.[7] Yng Ngorffennaf 2013, tywysodd Drakeford y Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) drwy'r Senedd, a arweiniodd at Gymru i ddod y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i gyflwyno caniatād tybiedig ar gyfer rhoddwyr organau. Galwodd hi'n "ddiwrnod hanesyddol i Gymru", ac yn "bolisi blaengar ar gyfer genedl blaengar".[8]

Arweinyddiaeth Llafur Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn dilyn cyhoeddiad Carwyn Jones ar 21 Ebrill 2018 ei fod yn bwriadu ymddiswyddo fel arweinydd y blaid a Prif Weinidog, dywedodd Drakeford ei fod yn rhoi 'ystyriaeth ddwys' i gynnig am yr arweinyddiaeth.[9] Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, cyhoeddodd ei fod am wneud cais i fod yn ymgeisydd yn y gystadleuaeth.[10] Ar unwaith, derbyniodd gefnogaeth gyhoeddus gan 7 AC Llafur arall, gan ei gymryd dros y nifer o enwebiadau angenrheidiol i gystadlu am yr arweinyddiaeth.[11] Cyn i Jones rhoi hysbysiad ysgrifennedig o'i ymddiswyddiad ar 26 Medi, cyhoeddodd naw AC Llafur arall eu cefnogaeth i Drakeford, oedd yn golygu byddai mwyafrif Grŵp Llafur yn y Senedd yn cefnogi ei gais.[12] Yn ddiweddarach, derbyniodd gefnogaeth gan 10 AS, wyth undeb llafur a 24 Pleidiau Llafur Etholaethol.

Mewn cynhadledd arbennig ar 15 Medi 2018, penderfynwyd newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau arweinydd Llafur Cymru i un aelod, un bleidlais - newid yr oedd Drakeford wedi ymgyrchu drosto ers dros 20 mlynedd.

Roedd cynigion polisi cynnar gan ymgyrch Drakeford yn cynnwys peilot ar gyfer bwndeli babanod a gwthio am ddatganoli y Gwasanaeth Prawf.[13][14] Yn lansiad gogleddol ei ymgyrch, datganodd ei gynlluniau ar gyfer Deddf Partneriaeth Cymdeithasol i amddiffyn hawliau cyflogaeth, a cynlluniau i sefydlu Banc Cymunedol i Gymru.[15]

Ar 6 Rhagfyr 2018, cyhoeddwyd fod Drakeford wedi ei ethol yn arweinydd newydd Llafur Cymru i ddilyn Carwyn Jones. Derbyniodd 46.9% o'r bleidlais yn rownd gyntaf y gystadleuaeth, a 53.9% yn yr ail rownd i gymharu a 41.4% ar gyfer Vaughan Gething.[16][17]

Ar 12 Rhagfyr 2018 fe'i enwebwyd ar gyfer swydd Prif Weinidog Cymru. Yn ogystal, enwebwyd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price ac arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies. Enillodd Drakeford 30 o bleidleisiau ac felly fe'i gadarnhawyd fel Prif Weinidog Cymru. Derbyniodd Davies 12 pleidlais a Price 9 pleidlais.[18] Ar 13 Rhagfyr 2018 tyngodd ei lw o flaen yr uwch farnwr Mr Ustus Lewis er mwyn cadarnhau ei benodiad yn swyddogol.[19]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Profile of Mark Drakeford". Welsh Labour. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2013.
  2. "Mark Drakeford Interview". New Political Centre. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Mark Drakeford Biography". Cardiff University. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2013.
  4. "Mark Drakeford Bibliography". Cardiff University. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2013.
  5. 5.0 5.1 "Mark Drakeford Interview". Guardian. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2013.
  6. "Mark Drakeford Biography". Welsh Government. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2013.
  7. "Welsh government reshuffle: Mark Drakeford new health minister". BBC News. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-21789790. Adalwyd 12 Tachwedd 2013.
  8. "Organ donation opt-out system given go-ahead in Wales". BBC News. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-23143236. Adalwyd 12 Tachwedd 2013.
  9. "Drakeford in Welsh Labour leader bid" (yn en-GB). BBC News. 2018-04-24. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-43867994.
  10. Shipton, Martin (2018-04-24). "'I'm the unity candidate,' says Mark Drakeford". walesonline. https://www.walesonline.co.uk/news/politics/im-unity-candidate-says-mark-14570228.
  11. "Drakeford in Welsh Labour leadership bid" (yn en-GB). BBC News. 2018-04-24. https://www.bbc.com/news/uk-wales-politics-43867994.
  12. "Most Labour AMs back Drakeford for leader" (yn en-GB). BBC News. 2018-09-17. https://www.bbc.com/news/uk-wales-politics-45549956.
  13. "Baby bundle plan for newborns backed" (yn en-GB). BBC News. 2018-09-10. https://www.bbc.com/news/uk-wales-politics-45452034.
  14. "Mark for Leader/ Mark ein Harweinydd on Twitter". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-09-27.
  15. https://twitter.com/hannahblythyn/status/1051547797206511618
  16. "Drakeford set to be Wales' first minister". BBC News. 6 December 2018. Cyrchwyd 6 December 2018.
  17. Mark Drakeford yw arweinydd newydd Llafur , Golwg360, 6 Rhagfyr 2018.
  18. Cadarnhau Mark Drakeford fel prif weinidog nesaf Cymru , BBC Cymru Fyw, 12 Rhagfyr 2018.
  19. Mark Drakeford yn tyngu llw fel Prif Weinidog Cymru , BBC Cymru Fyw, 13 Rhagfyr 2018.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]