Lynne Neagle

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lynne Neagle

Deiliad
Cymryd y swydd
6 Mai 1999

Geni (1968-01-18) 18 Ionawr 1968 (48 oed)
Merthyr Tudful
Plaid wleidyddol Llafur
Priod Huw Lewis
Alma mater Prifysgol Reading

Gwleidydd Cymreig ac aelod o'r Blaid Lafur yw Lynne Neagle (ganwyd 18 Ionawr 1968). Fe'i hetholwyd yn Aelod Cynulliad (AC) dros Etholaeth Torfaen ar ddyfodiad y Cynulliad ym 1999. Mae'n briod i Huw Lewis, AC dros etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni ac mae'r ddau'n byw ym Mhenarth.

Fe'i maged ym Merthyr Tudful a derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa. Astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Reading. Am gyfnod bu'n gynorthwyydd ymchwil i'r Aelod Seneddol Ewropeaidd, Glenys Kinnock.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Aelod Cynulliad dros Dorfaen
1999 – presennol
Olynydd:
deiliad



Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.