Vaughan Gething

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Vaughan Gething
AS
Vaughan Gething 2016.jpg
Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Deiliad
Cychwyn y swydd
19 May 2016
Prif WeinidogCarwyn Jones
Mark Drakeford
Rhagflaenwyd ganMark Drakeford
Dirprwy Weinidog dros Iechyd
Mewn swydd
11 Medi 2014 – 19 Mai 2016 [1]
Prif WeinidogCarwyn Jones
GweinidogMark Drakeford
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd y swydd
Dilynwyd ganRebecca Evans
Dirprwy Weinidog dros Drechu Tlodi
Mewn swydd
26 Mehefin 2013 [2] – 11 Medi 2014
Prif WeinidogCarwyn Jones
GweinidogJeffrey Cuthbert
Aelod o Senedd Cymru
dros De Caerdydd a Phenarth
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 2011
Rhagflaenwyd ganLorraine Barrett
Mwyafrif6,259 (22.8%)
Manylion personol
Ganwyd (1974-03-15) 15 Mawrth 1974 (49 oed)
Lusaka, Zambia[3]
CenedlCymro
Plaid wleidyddolLlafur Cyd-weithredol
Alma materPrifysgol Cymru
GwaithCyfreithiwr, undebwr
GwefanGwefan Swyddogol

Gwleidydd Cymreig yw Vaughan Gething (ganwyd 1974). Mae e wedi gwasanaethu fel Aelod o'r Senedd ers 2011.

Ef yw Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym Mis Mehefin 2013, penodwyd Vaughan Gething yn Dirprwy Weinidog Threchu Tlodi. Ym Mis Medi 2014, penodwyd Vaughan yn Dirprwy Weinidog Iechyd. Ym mis Mai 2016, penodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Penodwyd Vaughan yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 3 Tachwedd 2017. Ar 13 Rhagfyr 2018 penodwyd Vaughan yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.[4]

Gething a'r COVID-19[golygu | golygu cod y dudalen]

Gething oedd Gweinidog Iechyd Cymru adeg COVID-19 ("Y Gofid Mawr" fel y'i gelwid). Bu hyn yn gyfnod di-gynsail o ran delio ag haint a'r straen ar wasanaethau iechyd a chyhoeddus i unrhyw wleidydd o'r cyfnod. Beirniadwyd Gething yn hallt am beidio galw ar ganslo gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a'r Alban oedd i'w chwarea yn Stadiwm y Principality ar 14 Mawrth 2020.[5][6]

Daeth Gething o dan sawl beirnidaeth gan gynnwys gan y gwyddonydd Gwobr Nobel, yr Athro Syr Martin Evans. Ar 21 Ebrill 2020, cyhuddodd Evans llywodraethau Cymru a'r DU o "esgeuluso'u dyletswyddau" am beidio gwneud gwell defnydd o adnoddau domestig i ateb y galw am brofion Covid-19 ac offer diogelwch personol (PPE).[7]

Bu iddo ddenu sylw rhyngwladol wedi iddo gael ei ddal yn rhegi pan anghofiodd ddiffodd ei feicroffôn mewn cyfarfod dros y we o Gynulliad Cymru ar 22 Ebrill 2020.[8][9] Bu galw arno i ymddiswyddo gan Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru[10].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Lib Dem Williams named in new cabinet". 19 Mai 2016. Cyrchwyd 18 Hydref 2019 – drwy www.bbc.co.uk.
  2. "Lewis named as education minister". 26 Mehefin 2013. Cyrchwyd 18 Hydref 2019 – drwy www.bbc.co.uk.
  3. Davies, Daniel (9 November 2018). "Welsh Labour's mystery runners?". BBC. BBC News. Cyrchwyd 17 Awst 2019.
  4. 4.0 4.1 https://llyw.cymru/vaughan-gething-as
  5. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-51853674
  6. https://www.walesonline.co.uk/sport/rugby/rugby-news/welsh-health-minister-who-said-17926936
  7. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52370745
  8. https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/567004-what-sylwadau-vaughan-gething-aelod-llafur-cael
  9. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52387308
  10. https://twitter.com/Adamprice/status/1252985455546679296