Banciau Cymru

Oddi ar Wicipedia
Banciau Cymru

Yn ystod y 18g a'r 19g gwelid nifer o fanciau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn agor yng Nghymru. Cyn hynny roedd y Cymry'n ddibynnol ar fanciau Lloegr (cafodd rhai o'r banciau hynny eu sefydlu gan Gymry), yn arbennig y rhai yn ninasoedd Llundain, Caer, Lerpwl, Amwythig a Bryste.

Y ddeunawfed ganrif[golygu | golygu cod]

Papur Dwy bunt Banc y Ddafad Ddu

Yn ail hanner y 18g y gwelir y banciau Cymreig cyntaf yn ymddangos. Un o'r banciau lleol cyntaf i agor yn y wlad oedd Banc y Llong yn Aberystwyth, a sefydlwyd tua'r flwyddyn 1762. Agorai nifer o fanciau bach eraill, yng nghefn gwlad Cymru ac yn yr ardaloedd lle roedd diwydiant Cymru yn dechrau tyfu'n gyflym.

Cyfoeth y porthmyn a'r gwŷr busnes newydd a fentrai i agor pyllau glo neu chwareli oedd yr ysbardun pennaf i'r broses. Am y bancwyr eu hunain, yn achos y banciau bach gan amlaf tafarnwyr, landlordiaid, perchnogion diwydiannau lleol a phorthmon oedd y mentrwyr.

Erbyn 1770 roedd banc ym Merthyr Tudful. Yn 1778 agorodd banc yn Aberhonddu a thua'r un adeg un arall yng Nghaerfyrddin. Y banc annibynnol cyntaf yn y gogledd oedd yr un a agorwyd gan Richard Myddleton Lloyd, gwneuthurwr brethyn, yn Wrecsam yn 1785. Byr oedd hanes y rhan fwyaf o'r mentrau ariannol hyn, fodd bynnag.

Y bedwaredd ganrif ar bymtheg[golygu | golygu cod]

Ar ôl 1815 gwelwyd twf aruthrol yn y cwmnïau bancio preifat yn y de a'r gogledd. Yn y de agorwyd banciau newydd yn Aberhonddu, Caerdydd, Y Fenni, Casgwent, Llanymddyfri a nifer o lefydd eraill. Yn y gogledd y prif ganolfannau oedd Bangor, Amlwch (oherwydd y diwydiant cloddio copr ar Fynydd Parys), Caernarfon, Dinbych, Dolgellau, Yr Wyddgrug a Wrecsam.

Dechreuodd y banciau hyn leihau o 1836 ymlaen wrth i gwmnïau mwy, Cymreig a Seisnig, ddechrau eu prynu. Y banc mwyaf yn y wlad oedd Banc Gogledd a Deheudir Cymru (1836). Ymhlith ei gystadleuwyr oedd Cwmni Bancio Sir Forgannwg.

Agwedd arall ar gynilo arian yn y cyfnod oedd y twf aruthrol mewn cymdeithasau elusennol, yn aml yn gysylltiedig â gweithiau diwydiannol, chwareli ac ati, a'r banciau cynilo cydweithredol fel Y Derwyddon,

Yr ugeinfed ganrif[golygu | golygu cod]

Roedd y rhan fwyaf o'r banciau llai wedi diflannu erbyn yr ugeinfed ganrif. Collwyd Banc Gogledd a Deheudir Cymru i Fanc y Midland yn 1908, er enghraifft.

Rhai o'r banciau[golygu | golygu cod]

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • R.C. Jones, Arian: the story of money and banking in Wales (Abertawe, 1978)
  • Ben Bowen Thomas, Braslun o Hanes Economaidd Cymru (Caerdydd, 1941)