Diwydiant haearn Cymru

Oddi ar Wicipedia
Gwaith Haearn Cyfarthfa ym 1894

Gellir olrhain hanes diwydiant haearn Cymru i ddechreuadau Oes yr Haearn yng Nghymru, oddeutu 650 CC., dyddiad y celfi haearn cyntaf i'w darganfod yng Nghymru, yn Llyn Fawr ym mhen draw Cwm Rhondda, lle roedd nifer o eitemau wedi eu taflu i'r llyn fel offrymau i'r duwiau. Efydd oedd y rhan fwyaf, ond roedd tri o haearn, cleddyf, pen gwaywffon a chryman. Credir fod y cleddyf wedi ei fewnforio, ond mae'r cryman o wneuthuriad lleol, ac yn efelychiad o fath lleol wedi ei wneud o efydd.

Datblygwyd y ffwrnais chwyth yn y 16g, yn defnyddio siarcol yn bennaf i gynhyrchu haearn. Ceir cerdd Gymraeg o ail hanner y ganrif hon yn gofidio fod coed cwm Cynon wedi eu torri ar gyfer siarcol. Dechreuwyd cynhyrchu haearn yn y Bers yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn 1670, ac yn y Bers y dechreuwyd defnyddio golosg yn hyrach na siarcol i'r ffwrneisi ym 1721.

Dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol yn ail hanner y 18g, ac ystyrir mai Cymru oedd yn ail wlad (ar ôl Lloegr) i'w heffeithio gan y chwyldro yma. Y diwydiant haearn oedd y diwydiant pwysicaf yn nyddiau cynnar y chwyldro diwydiannol yng Nghymru. Mewn rhai o gymoedd de Cymru, roedd cyflenwad o fwyn haearn, calchfaen a glo, cyfuniad oedd yn eu gwneud yn ddelfrydol ar gyfer cynhyrchu haearn.

Yr ardal o gwmpas Merthyr Tudful oedd yr ardal lle cynhyrchid mwyaf o haearn, gyda phedair gwaith haearn mawr yma: Dowlais, Cyfarthfa, Penydarren a Plymouth. Sefydlwyd gweithfeydd Dowlais yn 1759, gyda Thomas Lewis ac Isaac Wilkinson ymysg y partneriaid gwreiddiol. Sefydlwyd gweithfeydd Cyfarthfa yn 1765 gan Anthony Bacon. Yn ddiweddarach daeth yn eiddo teulu Crawshay, a thyfodd yn fawr dan Richard Crawshay a'i ŵyr William Crawshay II. Sefydlwyd gweithfeydd Penydarren yn 1784 gan y brodyr Samuel, Thomas a Jeremiah Homfray. Yn y gogledd-ddwyrain, sefydlodd John Wilkinson ei waith haearn yn y Bers yn 1761, a bu ef yn gyfrifol am nifer o ddatblygiadau newydd.

Erbyn 1840, roedd 26 o weithfeydd yn yr ardal rhwng Hirwaun a Phont-y-pŵl yn cynhyrchu 36.2% o haearn crai Prydain. Roedd tua 30% o'r haearn yma yn cael ei gynhyrchu gan y pedair gwaith haearn mawr ym Merthyr. Dowlais oedd y gwaith haearn mwyaf yn y byd yr adeg honno. Roedd hefyd weithfeydd haearn yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn arbennig gweithfeydd haearn y Bers a Brymbo. Erbyn diwedd y 19g, roedd dur wedi disodli haearn i raddau helaeth.


Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.