Oes yr Haearn yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Protohanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig
Oes Newydd y Cerrig
Cynhanes
Mesolithig
Oes Ganol y Cerrig
P     Paleolithig diweddar
Hen Oes y Cerrig
 
    Paleolithig canol
Hen Oes y Cerrig
    Paleolithig cynnar
Hen Oes y Cerrig
  Hen Oes y Cerrig
Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Dechreuodd Oes yr Haearn yng Nghymru oddeutu 650 CC., dyddiad y celfi haearn cyntaf i'w darganfod yng Nghymru, yn Llyn Fawr ym mhen draw Cwm Rhondda, lle roedd nifer o eitemau wedi eu taflu i'r llyn fel offrymau i'r duwiau. Efydd oedd y rhan fwyaf, ond roedd tri o haearn, cleddyf, pen gwaywffon a chryman. Credir fod y cleddyf wedi ei fewnforio, ond mae'r cryman o wneuthuriad lleol, ac yn efelychiad o fath lleol wedi ei wneud o efydd.

Un o'r mynedfeydd i fryngaer Tre'r Ceiri, Gwynedd

Un o nodweddion y cyfnod yma oedd adeiladu nifer fawr o fryngeiri, er enghraifft Pen Dinas ger Aberystwyth a Tre'r Ceiri ar Benrhyn Llŷn. Y fryngaer gynharaf sy'n bendant yn dyddio o Oes yr Haearn, i bob golwg, yw Castell Odo, bryngaer fechan ger Aberdaron, Llŷn, sy'n dyddio i tua 400 CC.. Ceir y bryngeiri mwyaf yn y dwyrain, gyda rhai hefyd ar diroedd is y gogledd-orllewin. Yn y de-orllewin, mae bryngeiri yn niferus iawn ond yn llawer llai, y rhan fwyaf ag arwynebedd o lai na 1.2 hectar.

Llyn Cerrig Bach

Un o'r darganfyddiadau pwysicaf o'r cyfnod oedd casgliad mawr o eitemau oedd wedi eu hoffrymu i'r duwiau yn Llyn Cerrig Bach ar Ynys Môn. Cafwyd hyd i'r rhain yn 1943 wrth baratoi tir ar gyfer adeiladu maes awyr newydd. Roedd y darganfyddiadau yn cynnwys arfau, tariannau, cerbydau a'u hoffer atodol, cadwyni ar gyfer caethweision ac eraill. Roedd llawer wedi eu torri neu eu plygu yn fwriadol. Ystyrir y rhain yn un o'r darganfyddiadau pwysicaf ym Mhrydain o waith metel Diwylliant La Tène. Mae crochenwaith, ar y llaw arall, yn brin yng Nghymru yn y cyfnod hwn, a'r rhan fwyaf ohono wedi ei fewnforio.

Yn draddodiadol, cysylltir diwylliant La Tène a'r Celtiaid, a'r farn gyffredinol hyd yn ddiweddar oedd fod ymddangosiad y diwylliant yma yn dangos mewnlifiad mawr o bobl newydd oedd yn siarad iaith Geltaidd, ac a ddisodlodd y boblogaeth oedd yno ynghynt. Y farn gyffredinol erbyn hyn yw na ddigwyddodd hyn ar raddfa fawr, ac mai'r diwylliant a newidiodd yn hytrach na'r bobl.

Diweddodd y cyfnod cynhanesyddol pan gyrgaeddodd y Rhufeiniaid, a ddechreuodd eu hymgyrchoedd yn erbyn y llwythau Cymreig gydag ymosodiad ar y Deceangli yn y gogledd-ddwyrain yn 48 OC.. Bu ymladd chwerw yn erbyn y Silwriaid a'r Ordoficiaid, ond erbyn tua 79 roedd y goncwest wedi ei chwblhau. Mae adroddiad yr hanesydd Rhufeinig Tacitus yn rhoi tipyn o wybodaeth am Gymru yn y cyfnod yma, er enghraifft fod Ynys Môn i bob golwg yn fan arbennig i'r Derwyddon. Efallai fod effaith y Rhufeiniaid ar y brodorion yn amrywio o un rhan o Gymru i'r llall; er enghraifft mae tystiolaeth fod rhai bryngeiri, megis Tre'r Ceiri, yn parhau i gael eu defnyddio yn y cyfnod Rhufeinig.

Safleoedd Oes yr Haearn yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • I.Ll. Foster & Glyn Daniel (gol.) (1965) Prehistoric and early Wales (Routledge and Kegan Paul)
  • Frances Lynch (1970) Prehistoric Anglesey: the archaeology of the island to the Roman conquest (Cymdeithas Hynafiaethwtr Môn)
  • Frances Lynch, Stephen Aldhouse-Green a Jeffrey L. Davies (2000) Prehistoric Wales (Sutton Publishing) ISBN 0-7509-2165-X


Cynhanes Cymru
Hen Oes y Cerrig | Oes Ganol y Cerrig | Oes Newydd y Cerrig | Oes yr Efydd | Oes yr Haearn