Oes Newydd y Cerrig yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Protohanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig
Oes Newydd y Cerrig
Cynhanes
Mesolithig
Oes Ganol y Cerrig
P     Paleolithig diweddar
Hen Oes y Cerrig
 
    Paleolithig canol
Hen Oes y Cerrig
    Paleolithig cynnar
Hen Oes y Cerrig
  Hen Oes y Cerrig
Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig
Bryn Celli Ddu, bedd cyntedd o ddiwedd y cyfnod Neolithig

Nodweddir Oes Newydd y Cerrig, neu'r cyfnod Neolithig yng Nghymru gan ddechrau ffermio. Credir fod hyn yn dyddio o tua 4000 CC., pan mae canlyniadau dadansoddiad paill yn awgrymu fod rhywfaint o glirio'r fforestydd wedi dechrau, proses a gyflymodd yn ystod y cyfnod.

Un o brif nodweddion y cyfnod yma yng Nghymru oedd adeiladu siamberi claddu. Mae'r domen o gerrig neu bridd oedd yn gorchuddio'r rhan fwyaf ohonynt bellach wedi diflannu, gan adael y meini mawr oedd yn ffurfio'r siambr ei hun, y cromlechi. Y domen fwyaf yng Nghymru yw'r Gop yn Sir y Fflint, a hi yw'r ail fwyaf yng ngwledydd Prydain.[1] Ceir sawl ogof gerllaw, lle canfuwyd dros 30 o ysgerbydau o'r cyfnod hwn. Ceir tri prif fath o siamberi claddu yng Nghymru, y Beddrodau Hafren-Cotswold , yn bennaf yn y de-ddwyrain, y Beddau Porth, yn bennaf o gwmpas yr arfordir gorllewinol, a'r Beddau Cyntedd, sy'n arbennig o nodweddiadol o Ynys Môn ac sy'n debyg iawn i rai o siamberi claddu Neolithig enwog Iwerddon. Mae yna lawer o dystiolaeth o gysylltiad diwylliannol clos rhwng Cymru ac Iwerddon, yn enwedig yn y cyfnod Neolithig cynnar.

Mae olion aneddiadau yn brinnach, ond mae nifer gynyddol wedi eu darganfod yn y cyfnod diweddar. Yr enwocaf yw tai Clegyr Boia ger Tyddewi a'r tŷ yn Llandygai ger Bangor. Roedd nifer o "ffatrioedd" yng Nghymru yn cynhyrchu bwyeill cerrig. Y mwyaf o'r rhain oedd Graig Lwyd ger Penmaenmawr; mae cynnyrch Graig Lwyd wedi ei ddarganfod cyn belled a Swydd Efrog a chanolbarth Lloegr.

Crannog ar Loch Tay yn yr Alban.

Yn 2012 cafwyd hyd i grannog yn Crofft-y-Bwla, Trefynwy ar dir fferm 'Crofft-y-Bwla'. Yn 2015 datgelwyd fod yr olion mor hen â'r Oes Efydd ac y bu yno waith adeiladu cychod mewn llyn enfawr, sydd wedi diflannu ers canrifoedd. Darganfuwyd ffosydd twfn, metr o led, yn sianeli hirion dros bridd a losgwyd ac a ddyddiwyd i Oes Newydd y Cerrig gan system dyddio radiocarbon: 5,000 o flynyddoedd yn ôl (2,917 CC). Mae hyn yn golygu fod y crannog hwn yn Nhrefynwy yn 2,000 o flynyddoedd yn hŷn nag unrhyw anhediad-llyn drwy Lloegr a Chymru ac yn 300 mlynedd cyn adeiladu pyramidiau'r Aifft.

Pentre Ifan, Sir Benfro.

Safleoedd Neolithig yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Steve Burrow (2006) Cromlechi Cymru: marwolaeth yng Nghymru 4000 - 3000 CC (Amgueddfa Cymru) ISBN 0 7200 05671
  • George Children a George Nash (1997) The anthropology of landscape: a guide to Neolithic sites in Cardiganshire, Carmarthenshire & Pembrokeshire (Logaston Press) ISBN 1-873827-99-7
  • I.Ll. Foster & Glyn Daniel (gol.) (1965) Prehistoric and early Wales (Routledge and Kegan Paul)
  • Frances Lynch (1970) Prehistoric Anglesey: the archaeology of the island to the Roman conquest (Cymdeithas Hynafiaethwtr Môn)
  • Frances Lynch, Stephen Aldhouse-Green a Jeffrey L. Davies (2000) Prehistoric Wales (Sutton Publishing) ISBN 0-7509-2165-X


Cynhanes Cymru
Hen Oes y Cerrig | Oes Ganol y Cerrig | Oes Newydd y Cerrig | Oes yr Efydd | Oes yr Haearn
  1. Discovering a Welsh Landscape gan Ian Brown; Windgather Press; tudalen38-9