Pair Gundestrup

Oddi ar Wicipedia
Pair Gundestrup
Y duw corniog Cernunnos ar un o baneli Pair Gundestrup

Mae Pair Gundestrup yn bair arian cynhanesyddol a ddarganfuwyd ym Mai 1898 mewn cors fawn yng ngogledd Jutland ger tref Gundestrup yn Nenmarc.

Roedd y pair, sy'n cynnwys deuddeg o baneli darluniedig â ffigyrau a motifau mytholegol, wedi'i datgymalu'n ofalus, sy'n awgrymu gweithred ddefosiynol.

Mae oed a tharddiad gwreiddiol y pair yn anhysbys, ond credir ei bod yn dyddio o draean olaf y fileniwm gyntaf C.C. a'i bod o wneuthuriad Celtaidd neu dan ddylanwad Celtaidd. Awgrymir hyn yn neillduol gan helmedau'r rhyfelwyr arfog a'u tariannau a thrympedau rhyfel hir (carnyx).

Ategir Celtigrwrydd y pair gan y duw â thorch am ei wddw a chyrn carw yn tyfu o'i ben; credir ei fod yn cynrychioli'r duw Celtaidd Cernunnos sef duw â phwer dros anifeiliaid a ffrwythlondeb. Mae'n dal torch arall yn ei law dde ac yn gafael yng ngwddw sarff â'r llaw arall. O'i gwmpas mae nifer o anifeiliaid yn cynnwys carw a thwrch.

Ar un o'r paneli eraill darlunir rhes o ryfelwyr arfog meirw sy'n cael eu dodi mewn pair hir silindraidd gan dduw o ryw fath; mae hyn yn atgoffa dyn o'r Pair Dadeni ym mytholeg y Celtiaid, e.e. hanes pair Bendigeidfran yn ail gainc y Mabinogi, sy'n medru atgyfodi rhyfelwyr syrthiedig y Brythoniaid.

Serch hynny, mae rhai o'r lluniau eraill o anifeiliaid megis llewod, gryffoniaid ac eliffantod yn dangos dylanwad dwyreiniol ac yn debyg i'r hyn a welir ar weithiau celf Thraciaidd dan ddylanwad celf Helenistaidd. Oherwydd y cyffelybau hyn mae arbenigwyr yn credu fod y pair wedi'i wneud yn ardal y Balcanau, efallai tua 200 C.C. - 100 C.C..

Cedwir y pair yn Amgueddfa Genedlaethol Denmarc, yn Copenhagen.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • F. Kaul ac eraill, Thracian Tales on the Gundestrup Cauldron (Amsterdan, 1991)
  • G.S. Olmsted, The Gundestrup Cauldron (Brussels, 1979)