Copenhagen
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
![]() | |
Math |
prifddinas, dinas fawr, y dinas fwyaf ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
602,481 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Frank Jensen ![]() |
Cylchfa amser |
CET ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Capital Region of Denmark ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
86.2 km² ![]() |
Uwch y môr |
14 metr ![]() |
Gerllaw |
Øresund ![]() |
Cyfesurynnau |
55.6761°N 12.5689°E ![]() |
Cod post |
1000 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Frank Jensen ![]() |
![]() | |
Copenhagen (Daneg: København ) yw prifddinas Denmarc a'i phrif borthladd, ar arfordir dwyreiniol Sjælland ar lan y Môr Baltig gyferbyn â Malmö yn Sweden.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd trigfan yn Copenhagen mor gynnar â dechrau'r 9g. Yn y flwyddyn 1443 daeth yn brifddinas Denmarc.
Atyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r adeiladau nodedig yn cynnwys Palas Charlottenborg (17g: Academi Frenhinol y Celfyddydau Cain heddiw) a Phalas Christiansborg sy'n gartref i swyddfeydd senedd Denmarc heddiw. Cedwir nifer o drysorau o'r gorffennol yn Amgueddfa Genedlaethol Denmarc, a leolir yn y ddinas, yn cynnwys rhai o longau'r Llychlynwyr a Phair Gundestrup.
Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir dau brif tîm pêl-droed broffesiynol yn y ddinas - F.C. København a Brøndby IF.
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Niels Gade (1817-1890), cyfansoddwr
- Alexandra o Ddenmarc (1844-1925), Tywysoges Cymru 1863-1901 a brenhines y Deyrnas Unedig 1901-1910
- Niels Bohr (1885-1962), ffisegydd
- Sandi Toksvig (g. 1958), comediwr a chyflwynydd radio
|