Daneg
Gwedd
| Daneg (dansk) | |
|---|---|
| Siaredir yn: | Denmarc, Ynysoedd Ffaro, yr Ynys Las, yr Almaen (Schleswig-Holstein) |
| Parth: | Ewrop |
| Cyfanswm o siaradwyr: | 5.5 miliwn |
| Safle yn ôl nifer siaradwyr: | 103 |
| Achrestr ieithyddol: | Indo-Ewropeaidd Germaneg |
| Statws swyddogol | |
| Iaith swyddogol yn: | Denmarc, yr Undeb Ewropeaidd, yr Almaen (iaith leiafrifol) |
| Rheolir gan: | Dansk Sprognævn ("Pwyllgor Daneg") |
| Codau iaith | |
| ISO 639-1 | da |
| ISO 639-2 | dan |
| ISO 639-3 | dan |
| Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd | |
Iaith sydd yn perthyn i'r ieithoedd Germanaidd gogleddol yw Daneg (Daneg: dansk:
ynganiad Daneg ). Fe'i siaredir gan rhyw 5.5 miliwn o bobl yn bennaf yn Nenmarc, ond hefyd gan ryw 50,000 o siaradwyr yn rhannau gogleddol Schleswig-Holstein yn yr Almaen. Mae hi'n iaith swyddogol a phwnc gorfodol mewn ysgolion yn yr Ynys Las ac Ynysoedd Ffaro. Roedd Gwlad yr Iâ o dan goron Denmarc hyd 1944, ac fe'i siaredir yn helaeth yno fel ail iaith.
