Dansk Sprognævn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Y Dansk Sprognævn ydyw'r corff swyddogol sydd yn rheoli yr iaith Ddaneg fel rhan o'r Weinyddiaeth Ddiwylliant Ddanaidd, ac mae wedi ei leoli ym Mhrifysgol Copenhagen. Sefydlwyd y corff yn 1955. Mae gan y corff dair prif amcan:

  • I ddilyn datblygiad yr iaith
  • I ateb ymholiadau am yr iaith Ddaneg ac ei defnyddiau
  • I ddiweddaru y geiriadur daneg swyddool, y Retskrivningsordbogen

Mae aelodau y pwyllgor gweithiol yn dilyn y cyfryngau, yn darllen llyfrau ac yn cofnodi defnydd o eiriau newydd. Mae geiriau newydd sydd wedi ymddangos digon aml mewn print ac ar lafar yn cael eu hystyried yn ddigion nodedig i gael eu hychwanegu i'r Retskrivningsordbogen, llyfr y mae hi yn ofynol trwy gyfraith i bob ysgol a sefydliad lywodraethol ei ddilyn. Mae'r pwyllgor yn derbyn tua 14,000 o ymholiadau y flwyddyn ynglyn ar iaith Ddaneg, eu hanner gan gwmnïau preifat ond hefyd gan ddinasyddion cyffredin.

Mae'r Dansk Sprognævn yn cydweithio yn ddyddiol gyda byrddau iaith cyfwerth y Gwledydd Llychlyn eraill, Cynghorau Iaith Norwy a Sweden, i sicrhau nad yw'r Ieithoedd Llychlyn Cyfandirol, sydd fwy neu lai yn gyd ddealladwy, yn ymwahanu fwy na sydd angen.

Flag of Denmark.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ddenmarc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.