Gwlad yr Iâ

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lýðveldið Íslands
Gweriniaeth Gwlad yr Iâ
Baner Gwlad yr Iâ Arfbais Gwlad yr Iâ
Baner Arfbais
Arwyddair: Dim
Anthem: Lofsöngur
Lleoliad Gwlad yr Iâ
Prifddinas Reykjavík
Dinas fwyaf Reykjavík
Iaith / Ieithoedd swyddogol Islandeg
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd
 • Prif Weinidog
Guðni Th. Jóhannesson
Sigmundur Davíð Gunnlaugsson
Annibyniaeth
- Sofraniaeth
Oddi wrth: Denmarc
17 Mehefin 1944
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
103,000 km² (107fed)
2.7
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2013
 - Cyfrifiad 1980
 - Dwysedd
 
325,671 (178fed)
229,187
3.1/km² (222fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$10.53 biliwn (135fed)
$35,586 (5fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.956 (2il) – uchel
Arian cyfred Króna Gwlad yr Iâ (ISK)
Cylchfa amser
 - Haf
GMT (UTC+0)
Côd ISO y wlad .is
Côd ffôn +354

Mae Gweriniaeth Gwlad yr Iâ neu Gwlad yr Iâ yn ynys yng Ngogledd y Cefnfor Iwerydd rhwng yr Ynys Las a Phrydain. Iaith Lychlynaidd yw Islandeg, ac mae mwyafrif yr ynys yn dilyn Eglwys Lwther.

Ei llenor amlycaf, efallai, oedd Snorri Sturluson. O Wlad yr Iâ daw'r gantores pop Björk, Magnús Scheving o'r rhaglen deledu Lazytown, a'r nofelydd Halldór Laxness, enillwr Gwobr Nobel am lenyddiaeth ym 1955.

Mae gan yr Althing 63 o aelodau, a etholir pob pedair mlynedd. Y Prif Weinidog sy'n bennaeth ar y llywodraeth, tra bod yr arlywydd, a etholir am 4 mlynedd, yn penodi'r Prif Weinidog.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymsefydlodd Norwy-wyr yng Ngwlad yr Iâ gyda'u caethweision o'r Alban ac Iwerddon yn hwyr yn y 9g a'r 10fed. Nhw a sefydlodd y Senedd hynaf yn y byd, yr Althing, yn y flwyddyn 930.

Roedd Gwlad yr Iâ yn annibynol am dros 300 mlynedd, ond cyn hir daeth o dan reolaeth Norwy a Denmarc. Sefydlwyd rheolaeth cartref ym 1874, ac annibyniaeth ym 1918. Arhosodd brenin Denmarc, Christian X, yn frenin ar Wlad yr Iâ tan 1944 pan sefydlwyd gweriniaeth.

Map o 17C o Wlad yr Iâ.
Pentref pysgota canoloesol (neu Ósvör) wedi'i ail greu nepell o Bolungarvík.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Gwlad yr Iâ ar smotyn poeth daearegol ar y Grib Canol-Iwerydd. Mae yna lawer o losgfynyddoedd, yn enwedig Hekla. Hyd heddiw mae llosgfynyddoedd yn cael eu creu— crëwyd ynys newydd Surtsey ar ôl ffrwydrad ar 14 Tachwedd 1963. Mae tua 10% o'r ynys o dan iâ, ac mae ei rhewlifoedd yn enwog ledled y byd. Mae gan y wlad lawer o geysir (gair Islandeg), ac mae ynni daearthermol yn rhoi dŵr poeth a gwres cartref rhad yn y trefi.

Mae mwyafrif y trefi ar lan y môr. Y prif drefi yw Reykjavík, Keflavík—lleoliad y maes awyr cenedlaethol— ac Akureyri.

Mae geneteg pobl Gwlad yr Iâ yn debyg ac yn unigryw hyd heddiw, gan nad oes llawer o fewnfudo wedi digwydd dros y canrifoedd. O ganlyniad mae gwyddonwyr ar draws y byd yn astudio pobl yr ynys er mwyn darganfod mwy am etifeddu genynnau.

Rhanbarthau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir wyth rhanbarth yng Ngwlad yr Iâ, yn bennaf er mwyn hwyluso trefniadaeth ystadegol ac o ran côd-post y wlad. Mae system gyfreithiol y llysoedd hefyd wedi'i sefydlu ar y drefn hon o wyth rhanbarth. Yn rhyfedd iawn, ni ddiffinir yr wyth rhanbarth yn ôl cyfraith y wlad ac nid oes iddynt drefn weinyddol fel sydd gan siroedd Cymru.

# Cyfieithiad o'r enw Enw mewn
Islandeg
Poblogaeth
ddiweddaraf
Arwynebedd
(km²)
Pobl./
Arwynebedd
ISO 3166-2 Canolfan
weinyddol
Rhanbarthau Gwlad yr Iâ
1 Rhanbarth y Brifddinas Höfuðborgarsvæði 213,619[1] 1,062 201.14 IS-1 Reykjavík
Regions of Iceland.png
2 Penrhyn y De Suðurnes 21,431 829 27.15 IS-2 Keflavík
3 Rhanbarth y Gorllewin Vesturland 15,766[1] 9,554 1.65 IS-3 Borgarnes
4 Ffiords y Gorllewin Vestfirðir 6,883[1] 9,409 0.73 IS-4 Ísafjörður
5 Rhanbarth y Gogledd-orllewin Norðurland vestra 7,392 12,737 0.56 IS-5 Sauðárkrókur
6 Rhanbarth y Gogledd-ddwyrain Norðurland eystra 29,361[1] 21,968 1.33 IS-6 Akureyri
7 Rhanbarth y Dwyrain Austurland 15,300[1] 22,721 0.55 IS-7 Egilsstaðir
8 Rhanbarth y De Suðurland 23,311 24,526 1.01 IS-8 Selfoss
Gwlad yr Iâ Ísland 332,529[2] 102,806 3.23 IS

Siroedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Siroedd y wlad.

Mae Gwlad yr Iâ yn cynnwys 23 sir neu sýslur:

* Árnessýsla * Mýrasýsla * Suður-Múlasýsla

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Economi Gwlad yr Iâ

Mae'r diwydiant pysgota yn bwysig iawn i'r economi. Mae 60% o enillion allforion y wlad a swyddi 8% o'r gweithlu yn dibynnu arno. Y prif allforion yw pysgod, alwminiwm a ferrosilicon.

Mae mwyafrif yr adeiladau wedi eu hadeiladu o goncrit gan fod mewnforio pren yn ddrud. Yn y 1990au dewisodd llywodraeth Gwlad yr Iâ amrywio'r economi drwy ganolbwyntio mwy ar ddiwydiannau gwneuthur a gwasanaeth, gyda datblygiadau ym miotechnoleg, gwasanaethau ariannol, a chynhyrchiad meddalwedd. Mae twristiaeth hefyd yn dod yn bwysicach.

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Gwlad yr Iâ


Searchtool.svg
Prif erthygl: Rhanbarthau Gwlad yr Iâ

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 http://px.hagstofa.is/pxen/pxweb/en/Ibuar/Ibuar__mannfjoldi__2_byggdir__sveitarfelog/MAN02001.px.
  2. http://px.hagstofa.is/pxen/pxweb/en/Ibuar/Ibuar__mannfjoldi__2_byggdir__sveitarfelog/MAN02005.px/table/tableViewLayout1/?rxid=e07ea3de-99f1-46d1-a4d8-18245042f1e8.