Neidio i'r cynnwys

Kópavogur

Oddi ar Wicipedia
Kópavogur
Mathtref, dinas Edit this on Wikidata
Kópavogur pronunciation.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth40,040 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethÁsdís Kristjánsdóttir Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Tasiilaq, Klaksvík, Mariehamn, Odense, Tampere, Trondheim, Wuhan, Bwrdeistref Norrköping, Riverton, Sermersooq Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Arwynebedd110 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr8 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGarðabær, Reykjavík Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau64.1119°N 21.9°W Edit this on Wikidata
Cod post200, 201, 202, 203 Edit this on Wikidata
IS-KOP Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethÁsdís Kristjánsdóttir Edit this on Wikidata
Map

Bwrdeistref ail fwyaf Gwlad yr Iâ yn ôl poblogaeth yw Kópavogur (IPA:ˈkʰoːupavɔɣʏr̥). Saif i'r de o'r brifddinas, Reykjavík, ac mae'n rhan o Reykjavík Fawr. Ystyr yr enw yw cilfach llo morlo. Mae arfbais y dref yn cynnwys proffil eglwys Kópavogskirkja a llo morlo oddi tano.

Preswyldref yw Kópavogur gan mwyaf ond mae ganddi ardal fasnachol a diwydiant hefyd. Mae adeilad uchaf Gwlad yr Iâ, Tŵr Smáratorg, wedi ei lleoli yng nghanol Kópavogur.[1]

Mae'r dref yn bwysig yn hanes y genedl gan mai dyma oedd safle cyfarfod Kópavogur 1662.[2] Dyma oedd y digwyddiad a welodd ymgorffori Gwlad yr Iâ yn llawn i mewn i wladwriaeth Denmarc-Norwy pan wnaeth yr Esgob Brynjólfur Sveinsson a'r cyfreithiwr, Árni Oddsson, arwyddo dogfen ar ran pobl yr Ynys yn cadarnhau rheolaeth monarchiaeth absoliwt Brenhinoedd Denmarc dros y wlad. Roedd hyn yn ystod cyfnod Monopoli Masnach Denmarc 1602 to 1787 a roddodd i Ddenmarc sofraniaeth lwyr dros Wlad yr Iâ.[3]

Hyd at yr 1930au, prin iawn oedd poblogaeth Kópavogur, ond daeth y tir i'w defnyddio ar gyfer tai haf i boblogaeth Reykjavík. Gyda mudo poblo o'r cefn gwlad i Ranbarth y Brifddinas, tyfodd y dref ac ardal pentref wreiddiol Kópavogur.

Mae Kópavogur hefyd yn safle un o chwedloniaeth gyfoes Gwlad yr Iâ am yr huldufólk (corachod);[4] ac mae'n ymddangos yn y ffilm Sumarlandið (2010), lle caiff y garreg Grásteinn ei phortreadu fel tŷ corachod yn Kópavogur.

Digranesháls tua 1960

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Prif glybiau chwaraeon Kópavogur yw Gerpla,[5] Breiðablik UBK a Handknattleiksfélag Kópavogs (HK). Yn 2010 cipiodd Breiðablik y bencampwriaeth bêl-droed wrth ennill Cynghrair y wlad am y tro cyntaf ac yn 2012 enillodd HK ei pencampwriaeth pêl-law (handball) cyntaf.

Economi

[golygu | golygu cod]

Kópavogur yw canolfan siopa fwyaf Gwlad yr Iâ, sef y Smáralind. Mae campws y maelfa yma yn cynnwys adeilad uchef Gwlad yr Iâ, Tŵr Smáratorg, a'r pumed adeilad talaf a'r adeilad talaf yn wlad. Mae Kópavogur hefyd yn bencadlys i nifer o gwmnïau, gan gynnwys Promens.

Poblogaeth Kópavogur
Blwyddyn Preswylwyr Fel canran o Boblogaeth Gwlad yr Iâ
1940 200 0,2%
1950 1.652 1,1%
1960 6.213 3,5%
1970 11.165 5,4%
1980 13.814 6,0%
1990 16.186 6,3%
2000 22.693 8,1%
2010 30.357 9,6%
2011 30.779 9,7%
Fynhonnell: Hagstofa Íslands (Ystadegau Gwlad yr Iâ)[6]
Adeiladur Tŵr Smáratorg

Enwogion

[golygu | golygu cod]
  • Sverrir Ingi Ingason (geni 1993), pêl-droediwr

Gefeilldrefi

[golygu | golygu cod]
Panorama o Kópavogsbær a gymerwyd yn Arnarnes. O'r chwith i'r dde: Kársnes, Kópavogskirkja a Stryd Hamraborg. Yng nghanol y llun mae Suðurhlíð Kópavogur. Ar ochr dde'r llun mae blociau Engihjalla, Kopavogsdalur, Neuadd Chwaraeon Fifa a Smáratorg 3. Yn y blaendir ceir Kopavogur.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. DK Eyewitness Top 10 Travel Guide: Iceland: Iceland. Dorling Kindersley. 1 Mehefin 2010. t. 42.
  2. Lacy, Terry G. (2000). Ring of Seasons: Iceland--Its Culture and History. University of Michigan Press. t. 210. ISBN 0-472-08661-8.
  3. Andrew Evans: Iceland. Bradt 2008, S. 21, S. 183
  4. Valdimar Tr. Hafstein, 'The Elves' Point of View: Cultural Identity in Contemporary Icelandic Elf-Tradition', Fabula: Zeitschrift für Erzählsforschung/Journal of Folklore Studies/Revue d'Etudes sur le Conte Populaire, 41 (2000), 87-104 (tt. 91-93).
  5. "Vorönn - upplýsingar" (yn Icelandic). Gerpla.is. Cyrchwyd 25 February 2014.CS1 maint: unrecognized language (link)
  6. Tölur fengnar af vefsíðu Hagstofu Íslands

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]