Garðabær

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Arfbais Garðabær

Mae Garðabær (IPA:ˈkarðapair̥) yn un o'r saith bwrdeisdref yn Rhanbarth y Brifddinas a adnabir ar lafar fel Reykjavík Fawr, Gwlad yr Iâ.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Panorama Gardabaer

Fel pob dref o fewn Rhanbarth y Brifddinas, mae Garðabær yn dref sy'n tyfu. Hi bellach yw chweched dref fwyaf Gwlad yr Iâ gyda phoblogaeth o 13,872 ar 1 mis Medi 2013.

Unwyd Álftanes gyda Garðabær yn Ionawr 2013[1] Poblogaeth Álftanes oedd 2,484 ym mis Ionawr 2011.

Gwladychwyd safle tref Garðabær ers y 9g. Dywed Landnámabók, (Llyfr y Gwladychu) am ddau ffarm ar safle bresenol Garðabær: Vífilsstaðir a Skúlastaðir. Enwyd yr un gyntaf ar ôl Vífill, caethwas Ingólfr Arnarson, gwladychwr cyntaf Gwlad yr Iâ. Rhoddod Ingólfur ryddid i Vífill a gwnaeth hwnnw ei gartref yn Vífilsstaðir.

Bessastaðir - Tŷ'r Arlywydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleolir y Bessastaðir, cartref swyddogol Arlywydd Gwlad yr Iâ, yn Álftanes sydd oddi fewn i fwrdeisdref Garðabær. Unwyd bwrdeisdref Álftanes gyda'i chymydog, Garðabær, ym mis Ionawr 2013.[2] Roedd gan Álftanes boblogaeth o 2,484 yn Ionawr 2011.

Adnoddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleoliad Garðabær o fewn Reykjavík Fawr

Mae unig siop IKEA Gwlad yr Iâ yn Garðabær. Mae'r dref hefyd yn gartref i Marel hf y cwmni fwyaf ar Farchnad Stoc Gwlad yr Iâ (NASDAQ OMX Iceland).Nodyn:When[3]

Lleolir '380 studios', stiwdio deledu ar gyfer rhaglenni plant Lazy Town a LazyTown Extra a phencadlys Lazytown Entertainment, yn y dref.

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif glwb chwaraeon y dref yw Stjarnan, sydd fwyaf adnabyddus am dîm pêl-droed dynion sy'n chwarae yn yr Úrvalsdeild (Uwch Gynghrair Bêl-droed Gwlad yr Iâ) ac a enillodd y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 2014. Mae'r tîm merched wedi bod yn fwy llwyddiannus gan ennill y gynghrair o leiaf pedair gwaith.

Sefydlwyd Clwb Golff Oddur yn 1990 a croesawyd Pencampwriaeth Golff Gwlad yr Iâ yn 2006 a Phencampwriaeth Menywod Amatur Ewrop yno yn 2016. Mae'r ddawnswraig adnabyddus, Hanna Rún Óladóttir, yn byw yn Garðabær.

Gefailldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Merger Of Álftanes And Garðabær Approved". Reykavik Grapevine. Cyrchwyd 25 February 2014.
  2. "Merger Of Álftanes And Garðabær Approved". Reykavik Grapevine. Cyrchwyd 25 February 2014.
  3. "Shares". Nasdaq OMX. Cyrchwyd April 5, 2012.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 "Vinabæir". gardabaer.is. Cyrchwyd 26 April 2014.