Seltjarnarnes

Oddi ar Wicipedia
Seltjarnarnes
Mathtref, dinas, Cymunedau Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,674 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1947 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethThor Sigurgeirsson Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Herlev, Höganäs Municipality, Lieto, Nesodden Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirReykjavík Fawr Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Arwynebedd2 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau64.1542°N 22°W Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethThor Sigurgeirsson Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Seltjarnarnes mewn coch o fewn Reykjavík Fawr
Seltjarnarnes, 2017

Mae Seltjarnarnes yn fwrdeistref yng Ngwlad yr Iâ sydd yn rhan o Ranbarth y Brifddinas, Reykjavík Fawr. Mae'n gorwedd i'r gogledd orllewin o ganol Reykjavík ar benrhyn. Sefydlwyd ei ffiniau gwleidyddol yn fuan wedi'r Ail Ryfel Byd yn 1947. ei phoblogaeth yn 2017 oedd 4,590. Ei maint yw 2 km swgâr - dyma fwrdeistref leiaf y wlad.

Gorolwg a Hanes[golygu | golygu cod]

Y "Grótta"
Nesstofa

I'r gogledd o'r penrhyn lle saif Seltjararness ceir ynys fechan, Grotta. Adeiladwyd goleudy yma yn 1897 ac mae'n fan nythu i sawl rhywogaeth o adar. Cysylltir yr ynys i'r penrhyn gan bibell a foddir o dan llanw uchel. Awgrymir bod ymwelwyr yn cadarnhau amseroedd y llanw cyn ceisio cerdded i weld y goleudy.[1]

Lleolir Amgueddfa Moddion Nesstofa ar ochr orllewinnol y dref. Codwyd yr adeilad oddeutu 1763 a dyma oedd safle'r Coleg Feddygol nes 1876.

Ceir dwy ysgol in Seltjarnarnes, Mýrarhúsaskóli a Valhúsaskóli.

Mae un plaid, Plaid Annibyniaeth Gwlad yr Iâ, wedi rheoli'r dref ers i etholiadau llawn gychwyn yn 1962. Y pleidiau eraill a gynrychiolir ar gyngor y dref yw Samfylkingin a Neslistinn

Yn 2007 daeth Seltjarnarnes y dref gyntaf yn y byd lle cafodd pob dinesydd fynediad i ffeibr optig.[2]

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Y tîm pêl-droed lleol yw Íþróttafélagið Grótta sy'n cystadlu yn ail haen y wlad. Mae tîm pêl-llaw Grótta's yn chwarae yn y gynghrair gyntaf. Tîm menywog Grótta oedd pencampwyr y genedl yn 2015 a 2016. Mae gan Grótta hefyd timau gymnasteg a chodi pwysau.[3] Mae'r gymnast enwog, Magnús Scheving a greodd sioe deledu, LazyTown yn byw yn y bwrdeisdref.

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://blogs.transparent.com/icelandic/2014/03/07/hiding-in-plain-sight/
  2. "idega hugbúnaður - Viðskiptavinir:Seltjarnarnes". www.idega.is. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-13. Cyrchwyd 2016-08-10.
  3. "Íþróttafélagið Grótta – Íþróttafélagið Grótta var stofnað 24. apríl 1967". www.grottasport.is. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-21. Cyrchwyd 2016-06-18.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]