Keflavík
| Math | dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 23,329 |
| Cylchfa amser | UTC+00:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Reykjanesbær |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 5 metr |
| Cyfesurynnau | 64.001143°N 22.553322°W |
![]() | |



Mae Keflavík (ynganiad IPA:ˈcʰɛplaˌviːk) yn dref yn rhanbarth Reykjanes yn ne orllewin Gwlad yr Iâ ar benrhyn y de, Reykjanesskagi. Ystyr yr enw yr "Bae Broc-môr". Mae'n adnabyddus i deithwyr fel tref Maes Awyr Keflavík, prif faes awyr ryngwladol yr ynys. Ei phoblogaeth yn 2016 (wedi ei chyfuno gyda'r dref gyfagos, Njarðvík) oedd 15,129.[1]
Yn 1995 ymunodd Kelfavík gyda Njarðvík a Hafnir i greu bwrdeistref Reykjanesbær gyda phoblogaeth o 15,233 (Ionawr 2016).
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Keflavík yn yr 16g, a datblygodd y dref yn sgil ei diwydiant pysgota a phrosesu pysgod,[2] a sefydlwyd gan entrepreneuriaid a pheirianwyr o'r Alban. leoliad i awyrennau ail-lenwi eu tanciau wrth hedfan ar draws yr Iwerydd rhwng Gogledd America ac Ewrop cyn oes awyrennau mwy. Mae'r awyrfa bellach yn gwasanaethu fel prif ganolfan ryngwladol y wlad.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd y maes awyr milwrol yn wasanaeth ail-lenwi a thrafnidiaeth. Yn ystod y Rhyfel Oer, roedd Naval Air Air Keflavik yn chwarae rhan bwysig wrth fonitro traffig morol a llong danfor o foroedd Norwy a'r Ynys Las i mewn i gefnfor yr Iwerydd. Roedd pencadlys ar gyfer monitro, rhyng-gipio (intercept) awyrennau milwrol, ail-lenwi yn yr awyr, ac achub awyr/mor yno hefyd. Ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd, fodd bynnag, collwyd llawer o'r angen strategol dros y gwaith yma. Caewyd y pencadlys yn swyddogol ar 30 Medi 2006, pan gadawodd 30 o bersonél milwrol Unol Daleithiau America y safle.
Mae Keflavík yn enwog yng Ngwlad yr Iâ fel canolfan gerddorol bwysig yn ystod y 1960au a'r 70au. Fe'i gelwir hefyd yn bítlabærinn neu 'Tref y Beatle'.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r daearyddiaeth leol yn cael ei dominyddu gan gaeau o rwbel basalt, wedi'u rhyngddynt â rhai planhigion caled a mwsoglau. Ar ddiwrnod clir, gall un weld Snæfellsjökull ar draws y bae, tua 115 km i ffwrdd.
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Cyrychiolir y dref ym maes y campau gan Keflavík ÍF (sef Íþrótta- og ungmennafélag Keflavíkur). Fel sy'n gyffredin yng Ngwlad yr Iâ, mae corff o'r fath yn gyfrifol am lwyfanu timau mewn gwahanol gampau i wahanol oedrannau.
Enwogion y Dref Stadt
[golygu | golygu cod]- Ingvar Jónsson (pêl-droediwr) (* 1989)
- Arnór Ingvi Traustason, (pêl-droediwr rhyngwladol i Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad yr Iâ sy'n chwarae i dîm SK Rapid Wien yn Bundesliga Awstria) (* 1993)[3]
Mewn Diwylliant Boblogaeth
[golygu | golygu cod]Defnyddir hen ganolfan filwrol NATO fel lleoliad ar stori bwysig yn nofel bwsig Tom Clancy.[4] Disgrifiodd Clancy y ganolfan, daeareg, llystyfiant ac offer yr orsaf.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Population by Locaties-Keflavík and Njarðvík". Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2016.[dolen farw]
- ↑ Cathy Harlow, Iceland, Landmark Visitors Guide, 3rd ed. 2004, ISBN 1-84306-134-1, p. 57.
- ↑ Nodyn:Internetquelle
- ↑ Clancy, Tom (1986). Red Storm Rising. Putnam. ISBN 978-0-399-13149-3.
