Húsavík

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Húsavík panorama awyr, 2017 Mae Húsavík yn dref ym mwrdeisdref Norðurþing ar arfordir gogleddol Gwlad yr Iâ ar lannau bae Skjálfandi. Ei phoblogaeth yw 2,182. Ei phrif nodwedd pensaerniol yw eglwys bren Húsavíkurkirkja, a adeiladwyd yn 1907. Gweinir Húsavík gan Faes Awyr Húsavík.

Cyfunwyd yr hen fwrdeistref Húsavík (Isl Húsavíkurbær) ym mis Mehefin 2006 gyda chymunedau gwledig Keldunes (Kelduneshreppur), Öxarfjörður (Öxarfjarðarhreppur) a Raufarhöfn (Raufarhafnarhreppur) i greu fwrdeistref newydd, Norðurþing.

Daw incwm u dref o dwristiaeth a physgota yn ogystal ag elfen o fanwerthu a diwydiant bychan. Hyd yn ddiweddar, roedd Húsavík yn allforio silica a dynnwyd o lyn Mývatn ger llaw.

Poblogaeth hyd at 2005[golygu | golygu cod y dudalen]

Húsavíks Hafen, im Hintergrund der Húsavíkurfjall

Poblogaeth ar 1 Rhagfyr 1997: 2.599 (tiriogaeth 2002)
Poblogaeth ar 1 Rhagfyr 2003: 2.453
Poblogaeth ar 1 Rhagfyr 2004: 2.426
Poblogaeth ar 1 Rhagfyr 2005: 2.373
Newid Poblogaeth 1997–2005: –9 %


Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Bythynod Húsavík tua'r flwyddyn 1900

Yn ôl y Landnámabók ("Llyfr y Gwladychu"), Húsavík oedd y lle cyntaf yng Ngwlad yr Iâ i'w wladychu gan y Northmyn. Arhosodd y Swediad, Garðar Svavarsson yno am un gaeaf oddeutu'r flwyddyn 870. Pan adawodd yng ngwanwyn 870, wedi'r arhosiad dros y gaeaf, fe adawodd ddyn ar ei ôl, o'r enw Nattfari a dau gaethwas, dyn a dynes, ac fe sefydlon nhw fferm yno.[1] Ystyr Húsavík yw "bae y tai", gan gyfeirio, mae'n siwr, at gartrefi Garðar, a fyddai, o bosib, wedi bod yr unig dai yn yr holl ynys.

Enwodd Garðar Svavarsson y tir newydd yma (Gwlad yr Iâ) yn Garðarsholmur. Mae cofeb yn Ysgol Húsavík yn ei goffáu.

Twristiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Húsavík wedi dod yn ganolfan i wylio morfilod gan fod gwahanol fathau o forfilod yn ymweld â'r bae. Lleolir Amgueddfa Morfilod Húsavíkis yng nghannol y dref ger yr harbwr.[2]

Cer hefyd amgueddfa ddiwylliant a bioleg yn y dref. Gwelir yno arth wen wedi ei stwffio (a ymwelodd â Grimsey yn 1969) a hen gychod.

Mae Húsavík hefyd yn gartref i'r Amgueddfa Fforiadu (exploration museum). Ceir cofeb i'r gofodwyr yno sy'n talu teyrnged o gofodwyr yr Apollo bu'n hyfforddi yn ardal Húsavík yn ystod yr 1960au.[3]

Mae aral Mývatn, gyda'i daeareg a bywyd gwyllt ddiddorol, ger llaw. Ac mae Parc Cenedlaethol Jökulsárgljúfur gydag Ásbyrgi, y canion pendol a rhaeadrau Dettifoss, Hafragilsfoss a Selfoss heb fod yn bell o'r dref.

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Íþróttafélagið Völsungur (ÍF Völsungur) yw'r tîm pêl-droed lleol. Buont yn cystadlu yn y gynghrair uchaf yn ystod tymor 1988.[4]

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]


Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Guðni Th. Jóhannesson (9 January 2013). The History of Iceland. ABC-CLIO. pp. 6–7, 19–20. ISBN 978-0-313-37621-4.  Check date values in: |date= (help)
  2. "Whale museum homepage". Archifwyd o y gwreiddiol ar 6 July 2010. https://web.archive.org/web/20100706222130/http://www.whalemuseum.is/home/.
  3. Hnefill, Örlygur (12 August 2015). "Apollo astronauts revisit training area in Iceland and explore a new lava flow". The Exploration Museum. http://www.explorationmuseum.com/2015/07/astronauts-revisit-training-area-and-explore-a-new-lava-flow/.
  4. Iceland 1988 – RSSSF
  5. "Aalborg Twin Towns". Europeprize.net. Archifwyd o y gwreiddiol ar 7 September 2013. https://web.archive.org/web/20130907145357/http://www.europeprize.net/en/?page_id=5. Adalwyd 19 August 2013.
  6. "Nordurthing homepage" (yn icelandic). nordurthing.is. http://www.nordurthing.is.