Snorri Sturluson
Gwedd
| Snorri Sturluson | |
|---|---|
| Ganwyd | 1179 Hvammur í Dölum |
| Bu farw | 23 Medi 1241 Reykholt, Gorllewin Gwlad yr Iâ |
| Dinasyddiaeth | Gwlad yr Iâ |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, Skald, hanesydd, gwleidydd, diplomydd, bardd |
| Swydd | lawspeaker |
| Adnabyddus am | Prose Edda, Heimskringla |
| Mudiad | euhemerism |
| Tad | Sturla Þórðarson (elder) |
| Mam | Guðný Böðvarsdóttir |
| Priod | Hallveig Ormsdóttir |
| Plant | Órækja Snorrason, Þórdís Snorradóttir, Jón murtur Snorrason, Hallbera Snorradóttir |
| Llinach | Sturlungar family clan |
Hanesydd, bardd a gwleidydd o Wlad yr Iâ oedd Snorri Sturluson (1178 – 23 Medi, 1241).
Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur yr Edda Rhyddiaith neu Edda Iau, sy'n cynnwys y Gylfaginning ("twyllo Gylfi"), hanes o fytholeg Lychlynnaidd, y Skáldskaparmál, llyfr o iaith farddonol, a'r Háttatal, rhestr o ffurfiau barddoniaeth. Roedd hefyd yn awdur yr Heimskringla, hanes brenhinoedd Norwy sy'n dechrau yn y cyfnod mytholegol gyda Saga Ynglinga ond hefyd yn cynnwys hanes o'r Canol Oesoedd. Er nad oes sicrwydd, mae lle i gredu mai ef oedd awdur Saga Egil. Fel hanesydd, mae'n nodedig am ei theori fod y duwiau yn y cyfnod mytholegol wedi dechrau fel arweinwyr dynol, a bod pobl wedi dechrau eu hystyried yn dduwiau ar ôl eu marwolaeth.