Akranes
![]() | |
![]() | |
Math | dinas ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 7,411 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC±00:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Bwrdeistref Västervik ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Akraneskaupstaður ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 9 km² ![]() |
Uwch y môr | 9 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Hvalfjarðarsveit ![]() |
Cyfesurynnau | 64.3167°N 22.1°W ![]() |
Cod post | 300 ![]() |
![]() | |


Mae Akranes (IPA:ˈaːkraˌnɛːs) yn borthladd a bwrdeisdref ar arfordir orllewinnol Gwlad yr Iâ ac yn gorwedd oddeutu 20 km (12 mi) i'r gogledd o'r brifddinas, Reykjavík. Mae Akranes yn Rhanbarth Vesturland. Ar 1 Ionawr 2017 poblogaeth y dref oedd 7,051. Hi yw'r dref fwyaf yng ngorllewin Gwlad yr Iâ.
Gwladychwyd Akranes yn y 9g ond bu'n rhaid aros nes 1942 cyn i'r dref dderbyn siarter bwrdeisdref.
Hanes[golygu | golygu cod]
Sonia'r Landnámabók i Akranes gael ei gwladychu yn y 9g gan y brodyr Þormóður a Ketill, meibion Bresi. Daethont o'r Iwerddon. Dechreuodd y lle ymffurfio'n dref yng nghanol y 17g a hynny fel pentref bysgota. Yn 1942 fe roddwyd siarter iddi ac yn y blynyddoedd a ddilynodd cododd poblogaeth y dref yn sydyn iawn.
Ceir sawl diwydiant a chydlogwr yn y dref. Agorwyd ffatri sment yn yr 1950au a gorsaf mwyndoddi alwminiwm yn 1998.
Akranes Gyfoes[golygu | golygu cod]
Mae'r diwydiant bysgota yn parhau i fod yn un o brif gyflogwyr y dref ond mae masnach hefyd yn gyflogwyr sylweddol arall wrth i Akranes weithredu fel canolfan wasanaethu ar gyfer ardal wledig y tu cefn iddi.
Disgwylir i'r dref i dyfu ymhellach yn sgil gwella trafnidiaeth gydag ardal Reykjavík Fawr yn dilyn adeiladu Twnnel Hvalfjörður sydd 5.57 km-long (3.46 mi) o hyd yn 1998. Dyma un o dwneli tan-ddŵr hiraf y byd.
Poblogaeth[golygu | golygu cod]
Dyddiad | Poblogaeth |
---|---|
1. Rhag. 1981: | 5.267 |
1. Rhag. 1997: | 5.127 |
1. Rhag. 2003: | 5.582 |
1. Rhag. 2004: | 5.655 |
1. Rhag. 2005: | 5.782 |
1. Rhag. 2006: | 5.955 |
1. Rhag. 2007: | 5.976 |
1. Rhag. 2008: | 6.401 |
1. Dez. 2009: | 6.609 |
1. Dez. 2010: | 6.549 |
Chwaraeon[golygu | golygu cod]
Mae'r dref yn gartref i glwb chwaraeon, Íþróttabandalag Akraness.
Mae gan Akranes draddodiad pêl-droed hir. Mae'r tîm lleol, ÍA Akranes, wedi bod ymysg timau gorau'r wlad ers blynyddoedd. Ganed cyn chwaraewr Sheffield Wednesday ac Arsenal, y chwaraewr canol cae, Siggi Jonsson yn Akranes a bu'n chwarae gydag ÍA ar dri cyfnod gwahanol.
Amgueddfa Werin[golygu | golygu cod]
Lleolir Amgueddfa Werin Akranes yn y dref. Mae'r (Byggðasafnið í Görðum Akranesi) yn Garðar. Mae'n cynnwys arddangosfeydd ac arteffactau tu fewn a hefyd fel amgueddfa awyr agored yn debyg i Amgueddfa Werin Cymru. Sefydlwyd yr Amgueddfa yn 1953.[1]
Enwogion[golygu | golygu cod]
Jón Óskar - bardd
Gefailldrefi[golygu | golygu cod]
Mae Akranes wedi gefeillio â'r trefi isod:
Norwy Bamble, Norwy
Ffindir Närpes, Y Ffindir
Yr Ynys Las Qaqortoq, Yr Ynys Las
Ynysoedd Ffaro Sörvágur, Ynysoedd Ffaroe
Denmarc Tønder, Denmarc
Sweden Västervik, Sweden
Oriel[golygu | golygu cod]
-
Akranes o'r awyr
-
Tŷ yn Akranes
-
Langisandur yn Akranes
-
Akrafjall, gerllaw
-
Bêls gwair ger Akranes
-
Hen Oleudy Akranes
-
Goleudy newydd Akranes
-
Akranes o'r hen Oleudy
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Akranes Folk Museum – Collection policy (not accessible on the web).