Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Dŵr rhewedig yw (neu rhew).

Rhew ydi dŵr wedi'i rewi i mewn i'w gyflwr solid.

Rhywbeth diddorol am rhew, ydi'r ffaith ei fod yn 8.3% llai dwys nac dŵr, ac dyna pam mae o yn arnofio ar wyneb y dŵr. Y tymheredd mae dŵr hylif ar ei fwyaf dwys, ydi ar 4 ° C, lle mae o yn 1.00 g / cm³, ac mae'r dwysedd yn lleihau wrth i'r moleciwlau dŵr ddechrau ffurfio crisialau hecsagonol o rew wrth i'r pwynt rhewi gael ei gyrraedd.

Y rheswm am hyn ydi:

Mae dŵr yn cynnwys bondiau hydrogen. Pan mae dŵr yn cyrraedd tymheredd o 0°C mae'n rhewi, (ac felly mae'n troi i rhew) mae'r bondiau hydrogen yn gwneud i'r molecylau dŵr ffurfio strwythur dellt (lattice), anhyblyg, sydd yn achosi blychau/gapiau rhwng y molecylau, gan arwain at ei dwysedd isel, ond cyfaint uchel.

Edrychiad:

Gan ddibynnu ar bresenoldeb amhureddau fel gronynnau pridd neu swigod aer, gall ymddangos yn tryloyw, neu yn liw glas golau/gwyn.

Toddiant:

Pan fydd rhew yn toddi, mae'n amsugno cymaint o egni ag y byddai'n ei gymryd i wresogi dwr o o'r un mas i 80 ° C. Yn ystod y broses doddi rhew, mae tymheredd y rhew yn parhau'n gyson ar 0 ° C (aros ar 0 ° C). Wrth doddi, mae unrhyw egni sydd yn cael ei ychwanegu yn torri'r bondiau hydrogen rhwng moleciwlau rhew.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am
yn Wiciadur.
Physics template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.