Dwysedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd: Dwysedd poblogaeth

Dwysedd yw mesur o fâs pob uned o gyfaint. Mae'r dwysedd cyfartalog yn hafal i'r mâs cyfan wedi'w rhannu ar cyfaint cyfan. Uned arferol dwysedd yw cilogram pob metr ciwb (cg/m³).

\rho = \frac{m}{C}

Lle

ρ yw dwysedd y gwrthrych (wedi'w fesur mewn cilogram pob metr ciwb)
m yw mâs cyfan y gwrthrych (wedi'w fesur mewn cilogramau)
C yw cyfaint cyfan y gwrthrych (wedi'w fesur mewn metrau ciwb)

Dwysedd elfennau[golygu]

Disgwylir bod dwysedd uchaf yn y bydysawd wedi'w leoli mewn canol seren newtron. Ar y ddaear yr elfen dwysaf yw Iridiwm gyda dwysedd o 22650 ck/m³

Tabl yn rhestru dwysiant o elefennau cyffredin:

Elfen Dwysedd mewn cg/m3
Iridiwm 22650
Osmiwm 22610
Platinwm 21450
Aur 19300
Twngsten 19250
Uraniwm 19050
Mercwri 13580
Paladiwm 12023
Plwm 11340
Arian 10490
Copr 8960
Haearn 7870
Dur 7850
Tun 7310
Titaniwm 4507
Diamwnd 3500
Gwenithfaen 2700
Aluminiwm 2700
Graffit 2200
Magnesiwm 1740
Dŵr môr 1025
Dŵr 1000
Rhew 917
Alcohol 790
Petrol 730
Hylif Hydrogen 68
Unrhyw nwy 0.0446 gwaith y mâs moleciwlar, felly rhwng 0.09 a 13.1 (mewn tymheredd a dwysedd ystafell)
Fel enghraifft aer 1.2