Grisial

Oddi ar Wicipedia
Grisial
Mathsolid, sylwedd cemegol, cyflwr rhwym Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Grisialau o byrit haearn ar garreg o glai o Sbaen. Maint y crisial mwyaf: 31 mm o hyd a 512 g.

Deunydd soled lle mae'r atomau a'r moleciwlau wedi'u gosod mewn haenau trefnus i greu strwythur microsgopig yw grisial neu crisial (enw gwrywaidd). Mae'r haenau hyn wedi'u cyplysu i ffurfio dellt sy'n ymestyn i bob cyfeiriad.[1][2] Gellir adnabod math unigol o risial yn aml oherwydd ei siâp geometrig e.e. diamwnt, halen neu bluen eira. Gelwir yr astudiaeth o grisialau, y mathau a'u ffurfiad, yn grisialeg.

Halen, NaCl: Microscopig a macroscopig
Un grisial o halen cyffredin
Strwythur microsgopig halen cyffredin.
Un grisial o halen cyffredin
Grisial macroscopig (~16cm) o halen.

Daw'r gair grisial o'r Hen Roeg κρύσταλλος (krustallos), sef "rhew"[3][4][5]. Fe'i ceir yng ngwaith Guto'r Glyn a Lewis Glyn Cothi (Grwowndwal a grisial holl gred) yn y 15g.[6]

Ceir amrywiaeth eang o grisialau, gan gynnwys y cewri uchod (diamwnt, halen), ond mae'r rhan fwyaf o grisialau anorganaidd yn glwstwr o grisialau (sef 'amlgrisial'), yn hytrach nag yn un grisial mawr e.e. llawer o greigiau, metalau a rhew. Ceir trydydd grŵp o solidau sef y rhai di-ffurf, amorffaidd, lle nad oes gan yr atomau unrhyw ffurf bendant e.e. gwydr, cwyr a sawl math o blastig.

Ar wahân i'r byd gwyddonol, defnyddir grisialau mewn meddygaeth amgen a defodau crefyddol, e.e. therapi grisial, a gyda gleiniau (sef crisialau i'w gwisgo ac i addurno), mewn swynion o fewn credoau fel Wica.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Stephen Lower. "Chem1 online textbook—States of matter". Cyrchwyd 2016-09-19.
  2. Ashcroft and Mermin (1976). Solid state physics.CS1 maint: uses authors parameter (link)
  3. κρύσταλλος, Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, on Perseus Digital Library
  4. κρύος, Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, on Perseus Digital Library
  5. The American Heritage Dictionary of the English Language. Kreus. 2000. https://www.ahdictionary.com/word/search.html?q=crystal&submit.x=0&submit.y=0.
  6.  grisial. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.

Oriel[golygu | golygu cod]