Neidio i'r cynnwys

Cwyr

Oddi ar Wicipedia
Cwyr
Enghraifft o:term ontolegol ChEBI, dosbarth o endidau cemegol gyda chymwysiadau neu swyddogaethau tebyg Edit this on Wikidata
Mathsylwedd cemegol, deunydd Edit this on Wikidata
Rhan owax biosynthetic process, wax metabolic process Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0fy__ edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF11191 edit this on wikidata
QuoraWax edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cannwyll a wneir o gwyr.

Sylwedd ystwyth ac anhydraidd a chanddo gyfernod ffrithiant isel yw cwyr. Mae dau brif fath: cwyrau mwynol, sydd yn hydrocarbonau o bwysau molecylaidd uchel a chanddynt strwythur ficrogrisialaidd; a chwyrau planhigion ac anifeiliaid sydd yn esterau o asidau brasterog sydd yn cyflawni ffwythiant amddiffynnol. Mae hefyd cwyrau organig synthetig sydd yn gyffredinol yn rhannu'r un gyfansoddiad cemegol â chwyrau naturiol.[1]

Mae cwyrau yn debyg i frasterau, er enghraifft mae'r ddau fath o sylwedd yn hydawdd yn yr un sylweddau ac yn gadael marciau saim ar bapur. Mae cwyrau yn tueddu i fod yn llai seimllyd, yn galetach, ac yn freuach na brasterau.[2]

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Daw bôn y gair Cymraeg "cwyr" o'r gair Lladin cēra.[3]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Crystal, David (gol.). The Penguin Encyclopedia (Llundain, Penguin, 2004), t. 1630.
  2. (Saesneg) wax. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Hydref 2014.
  3.  cwyr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Hydref 2014.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: