Albania
|
|||||
| Arwyddair: Dim | |||||
| Anthem: Himni i Flamurit (Cymraeg: 'Emyn y Faner') |
|||||
| Prifddinas | Tiranë | ||||
| Dinas fwyaf | Tiranë | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Albaneg | ||||
| Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
| • Arlywydd • Prif Weinidog |
Bujar Nishani Edi Rama |
||||
| Annibyniaeth - Dyddiad |
oddiwrth Ymerodraeth yr Otomaniaid 28 Tachwedd 1912 |
||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
28,748 km² (139fed) 4.7 |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Dwysedd |
3,581,655 (130fed) 123/km² (63fed) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2007 $19.818 biliwn (112fed) $6,259 (100fed) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.784 (canolig) – 73fed | ||||
| Arian cyfred | Lek (ALL) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
CET (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
| Côd ISO y wlad | .al | ||||
| Côd ffôn | +355 |
||||
Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw Gweriniaeth Albania neu Albania. Y gwledydd cyfagos yw Montenegro yn y gogledd, Serbia yn y gogledd-ddwyrain, Macedonia yn y dwyrain a Gwlad Groeg yn y de. Mae ar lân Môr Adria a Môr Ionia. Ei phrif borthladd yw Dürres. Adwaenir pobl Albania fel Albaniaid - nid i'w cymysgu ag Albanwyr, pobl yr Alban.
Cynnwys
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Albania yn un o wledydd y Balcanau. Mae hi'n wlad fynyddig iawn a elwir weithiau "Gwlad yr Eryr". Cyfyd y mynyddoedd i uchder o hyd at 2700m (9000 troedfedd). Ceir coedwigoedd sylweddol. Mae'r tir arfordirol yn ffrwythlon iawn.
Mae'r prif ddinasoedd a threfi yn cynnwys Tiranë (y brifddinas), Durrës (y prif borthladd), Shkodër, Shëngjin, Elbasan, Vlorë a Sarandë.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Sefydlwyd Durrës gan y Groegiaid mor bell yn ôl â'r 7fed ganrif CC.
Rhwng diwedd y 15fed a dechrau'r 20fed ganrif bu Albania'n rhan o'r Ymerodraeth Ottoman.
Yn 1912 enillodd Albania ei hannibyniaeth ar yr Ottomoniaid. Yn 1925, yn sgîl rhyfel cartref y cymerodd yr Eidal ran ynddo, aeth y wlad yn weriniaeth. Fodd bynnag troes yn fonarchiaeth unwaith yn rhagor yn 1928 pan gafodd ei harlywydd Ahmed Beg Zogu ei wneud yn frenin ar y wlad dan yr enw cofiadwy Brenin Zog. Cafodd y wlad ei meddianu gan luoedd arfog yr Eidal a'r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd troes Albania'n wlad gomiwnyddol yn 1946 dan arweinyddiaeth yr unben Enver Hoxha. Ar ôl cyfnod o fod yn gynghrair triw i Stalin, troes Albania i'r Tsieina Faoaidd o 1961 ymlaen.
Pobl a diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r mwyafrif o'r Albaniaid yn oerthyn i ddau grŵp ethnig, sef y Ghegiaid (i'r gogledd o Afon Shkumbi) a'r Tosgiaid (i'r de o'r afon honno); ychydig sy'n hysbys am eu gwreiddiau. Albaneg yw'r unig iaith swyddogol. Fel yn achos Cosofo dros y ffin, mae'r mwyafrif o'r dinesyddion yn Fwslemiaid.
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Mewn canlyniad i bolisi ynysigaeth llywodraeth y wlad yn y gorffennol, pan ddibynai Albania i raddau helaeth ar fasnach gyda Tsieina a Gogledd Corea, roedd economi'r wlad yn dlawd iawn mewn cymhariaeth â gweddill Ewrop. Erys Albania yn un o wledydd tlotaf Ewrop heddiw, er bod pethau wedi gwella'n sylweddol gyda chymorth gan Undeb Ewrop.
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Y Fam Teresa (1910-1997), lleian Gatholig a chenhades
Prif ddinasoedd a threfi Albania yn ôl poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Tiranë - 352,900
- Durrës - 113,800
- Elbasan - 96,800
- Shkodër - 85,800
- Vlorë - 84,400
- Korçë - 58,800
- Fier - 55,100
- Borshi - 9,500
- Kavajë - 40,000
- Lushnjë - 38,200
- Kavaja: 28.200
- Pogradeci: 23.700
- Laçi: 23.400
- Gjirokastra: 22.800
- Patosi: 21.000
- Kruja: 19.400
- Kuçova: 18.000
- Kukësi: 16.600
- Lezha: 16.600
- Saranda: 14.500
- Peshkopia: 14.100
- Burreli: 13.900
- Cërrik: 13.200
- Çorovoda: 13.200
- Shijak: 12.800
- Librazhdi: 11.500
- Tepelenë: 11.300
- Gramsh: 10.400
- Poliçan: 10.200
- Bulqizë: 10.000
- Përmet: 9.800
- Fushë-Krujë: 9.600
- Kamzë: 9.300
- Rrëshen: 9.200
- Ballsh: 9.100
- Mamurras: 7.600
- Bajram Curri: 7.500
- Ersekë: 7.500
- Peqin: 7.200
- Divjak: 7.069
- Selenicë: 6.900
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Amryw[golygu | golygu cod y dudalen]
- Lleoliad Albania ar glob 3D (Java)
- Baneri hanesyddol Albania
- Albania a'r Balkan: fforwm trafod
- Ffeithlyfr Byd y CIA — Albania
- Gwybodaeth gyffredinol am bobl Albania
- Dolenni swyddogol
- Llawlyfr teithio am Albania
- Map o Albania
- Hanes Albania
- Ffeithiau am wleidyddiaeth Albania a'i hetholiadau
Gwefannau swyddogol y llywodraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Swyddfa Twristiaeth Genedlaethol Albania
- Cyngor Gweinidogion
- Senedd Albania
- Llywyddiaeth Albania
- Sefydliad Ystadegau Albania
- Banc Cenedlaethol Albania
|
|||||