Ynysoedd Ffaröe
Ynysoedd Ffaröe Føroyar |
||||||
---|---|---|---|---|---|---|
|
||||||
Anthem: Tú alfagra land mítt Ti, fy mhrydferth dir! |
||||||
Lleoliad yng ngogledd Ewrop.
|
||||||
Prifddinas (and Y ddinas fwyaf) | Tórshavn 62°00′N 06°47′W / 62.000°N 6.783°W | |||||
Ieithoedd swyddogol | Ffaröeg a Daneg[1] | |||||
Grwpiau ethnig | ||||||
Demonym | Ffaroaidd | |||||
Llywodraeth | Brenhiniaeth gyfansoddiadol | |||||
- | Y Frenhines | Margrethe II | ||||
- | Uchel Gomisiynydd | Dan M. Knudsen | ||||
- | Prif Weinidog | Aksel V. Johannesen | ||||
Cyfreithiol | Løgting | |||||
Ymreolaeth o fewn Brenhiniaeth Denmarc | ||||||
- | Cytundeb Kiel | 14 Ionawr 1814 | ||||
- | Hunanlywodraeth | 1 Ebrill 1948 | ||||
Arwynebedd | ||||||
- | Cyf | 1,399 km2 (180th) 540 mi sgwâr |
||||
- | Dŵr (%) | 0.5 | ||||
Poblogaeth | ||||||
- | Gorffennaf 2011 amcan. | 49,267[2] (206fed) | ||||
- | Dwysedd | 35/km2 91/mi sgwâr |
||||
GDP (PPP) | 2008 amcan. | |||||
- | Cyfanswm | $1.642 biliwn | ||||
- | Y pen | $33,700 | ||||
GDP (nominal) | 2008 amcan. | |||||
- | Cyfanswm | $2.45 biliwn | ||||
- | Y pen | $50,300 | ||||
HDI (Mynegai Datblygiad Dynol) (2011) | 0.895 | |||||
Arian | króna Ynysoedd Ffaröe[d] (DKK ) |
|||||
Rhanbarth amser | WET Amser +0) | |||||
- | Haf (DST) | WEST (UTC+1) | ||||
Parth rhyngrwyd lefel uchaf | .fo | |||||
Côd deialu | +298 |
Ynysfor yng Ngogledd Ewrop rhwng Môr Norwy a Chefnfor yr Iwerydd yw'r Ynysoedd Ffaröe[3] (Ffaröeg: Føroyar, Daneg: Færøerne). Arwynebedd y tir yw 1400 km². Y brifddinas yw Tórshavn (neu Thorhavn), ar ynys Streymoy. Mae'r ynysoedd yn gorwedd tua hanner ffordd rhwng Norwy a Gwlad yr Iâ; yr ynysoedd agosaf i'r de yw Shetland.
Maen Ynysoedd Ffaröe yn dalaith hunanlywodraethol o Ddenmarc ers 1948 gan gymryd cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o'u materion, ac eithrio amddiffyn a materion tramor.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Tórshavn yw'r brifddinas, ac mae ganddi boblogaeth o 19,000; yr ail ddinas yw Klaksvik sydd â phoblogaeth o tua 6,000. Mae trwch gweddill y boblogaeth wedi'i gwasgaru ymysg y pentrefi arfordirol. Mae pobl yn byw ar 17 o'r 22 ynys. Y prif ynysoedd yw Streymoy, Eysturoy, a Vágar. Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fryniog ac mae'r gweithgareddau amaethyddol yn gyfyngiedig i fagu defaid a thyfu tatws. Mae pysgota a phrosesu pysgod yn ddiwydiannau o bwys.
Ardal yr ynysoedd yw 1,399 cilomedr sgwâr (540 mi.sg), ac nid oes afonydd na llynnoedd o bwys. Mae 1,117 cilomedr (694 mi) o arfordir, ac nid oes ffin tirol gydag unrhyw wlad arall. Yr unig ynys fawr sydd heb drigolion arni yw Lítla Dímun.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Daeth trigolion gwreiddiol yr ynysoedd yno adeg y Llychlynwyr; mae hanes y drefedigaeth i'w chael yn y Færeyinga Saga.
Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae diwylliant yr ynysoedd yn hannu o olion o'r hen ddiwylliant Lychlynnol-Scandinafaidd wedi'u cymysgu â diwylliant draddodiadol ffermio a physgota cynhaliol.
Iaith gynhenid, a bellach prif iaith swyddogol yr ynys, ydyw'r Ffaröeg, iaith Germanaidd sy'n ymdebygu rhywfaint i'r Islandeg. Dethlir diwrnod nawddsant yr Ynysoedd, Ólavsøka ('Gwylnos Sant Olaff') ar 29 Gorffennaf. Ceir cyfres o ddigwyddiadau yn arwain at y diwrnod. Ar yr 29ain fe agorir Senedd y wlad: y Logting.
Ceir Coleg trydyddol a galwedigaethol, Glasir a Prifysgol Ynysoedd Ffaröe ar yr ynysoedd, a Ffaroeg yw iaith gweinyddu ac addysgu'r sefydliadau yma gan fwyaf.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Statistical Facts about the Faroe Islands, 219, The Prime Minister's Office; adalwyd 13 Gorffennaf 2011.
- ↑ CIA - The World Factbook; adalwyd 13 Gorffennaf 2011.
- ↑ Geiriadur yr Academi, "Faroe Islands, the Faroes".