Prifysgol Ynysoedd y Ffaröe

Oddi ar Wicipedia
Prifysgol Ynysoedd y Ffaröe
Mathprifysgol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1965 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTórshavn Edit this on Wikidata
SirTórshavn Municipality Edit this on Wikidata
GwladYnysoedd Ffaröe Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau62.01°N 6.78°W Edit this on Wikidata
Map
Map o rhan o Tórshavn yn dangos lleoliad y Brifysgol
Map o rhan o Tórshavn yn dangos lleoliad y Brifysgol

Mae Prifysgol Ynysoedd Ffaröe (Ffaroeg: Fróðskaparsetur Føroya) yn brifysgol wladwriaethol ar gyfer Ynysoedd Ffaröe a leolir yn y brifddinas, Tórshavn. Ffaroeg yw prif iaith weinyddol y brifysgol ac addysgir y myfyrwyr mewn Ffaroeg, Daneg a Saesneg.

Ni ddylir ei gymysgu gyda Choleg Trydoddol a Galwedigaethol newydd yr Ynysoedd, Coleg Glasir a agorwyd yn Awst 2018 sydd hefyd wedi lleoli yn y brifddinas.

Hanes[golygu | golygu cod]

Christian Matras, sefydlydd ac Athro gyntaf y Brifysgol

Mae hanes y brifysgol yn estyn nôl at Gymdeithas Wyddonol Ffaröe (Føroya Fróðskaparfelag), a sefydlwyd ym 1952.[1] Prif amcan y Gymdeithas oedd i greu canolfan ar gyfer gwyddoniaeth ac ymchwil yn Ynysoedd Faröe. Ar adeg sefydlu'r brifysgol dim ond un athro oedd: Christian Matras, a fu'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Copenhagen.

Heblaw am y cyrsiau blynyddol i fyfyrwyr yn Ffaraoeg a hanes naturiol, trefnodd y brifysgol ddarlithoedd cyhoeddus a dosbarthiadau nos yn yr iaith. Dechreuodd Prifysgol Ynysoedd Ffaröe hefyd ymwneud â dysgu ac astudio llên gwerin a threftadaeth ddiwylliannol.

Mae'r brifysgol yn cynnig addysg ar lefel PhD, graddedigion ers 1996.

Cyfredol[golygu | golygu cod]

Adeilad ysgol Nyrsio sy'n rhan o'r Brifysgol

Mae corff y myfyriwr yn fach, gyda bron i 1,000 o fyfyrwyr.[2] Mae'r brifysgol yn trefnu cystadleuaeth traethawd hir yn agored i bob myfyriwr. Iaith addysgol y brifysgol yw Ffaroeg, gan ei gwneud yn yr unig brifysgol yn y byd i gynnal dosbarthiadau yn swyddogol yn yr iaith honno. Mae'r brifysgol yn cydweithio'n agos â Phrifysgol Copenhagen a Phrifysgol Gwlad yr Iâ ar gyfer prosiectau ymchwil ac mae'n aelod o UArctic (Prifysgol yr Artig).

Ceir Deg Adran:[3]

Swyddfa Weinyddu Ganolog
Gwasanaeth Canolog i Fyfyrwyr
Swyddfa Ryngwladol
Adran Iaith a Llenyddiaeth Ffaroeg
Adran Addysg
Adran Hanes a Gwyddorau Cymdeithasol
Adran Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Adran Gwyddor Iechyd

Is-radd[golygu | golygu cod]

BA Iaith a Llenyddiaeth
BSc Hanes
BSc Dadansoddi a Chynllunio Cymdeithasol
BSc Gwleidyddiaeth a Gweinyddiaeh (gwyddor gweleidyddiaeth)
Bagloriaeth Addysg mewn Addysg gyda Thystysgrif Ysgol Cynraedd ac Uwchradd
Bagloriaeth Addysg mewn Addysg Gymdeithasol gyda Thystygrif Gwyddor Addysg
BSc Nyrsio
BSc Peirianyddu Meddalwedd
BSc Bioleg
BSc Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol
BA Y Gyfraith - Yn Ebrill 2019 datganwyd bod y brifysgol am ddechrau cynnig gradd yn y Gyfraith yn nhymor yr hydref 2019.[4]

Ôl Radd[golygu | golygu cod]

MA y Iaith a Llên Ffaroeg
Meistr yn y Gyfraith
Gradd Meistr mewn cyd-weithrediad gyda Phrifysgol yr Ynys Las, Prifysgol Akureyri (Gwlad yr Iâ), Prifysgol Gwlad yr Iâ a Phrifysgol Nordland.[4][6][7][8]
MA/MSc Astudiaethau Gorllewin Nordic, Llywodraethiant a Rheolaeth Hunangynhaliol

For 2018 roedd 1,000 o fyfyrwyr, 144 o staff academaidd a gweinyddol a 24 gradd ar gael.[2]

Gwasg Prifysgol Ffaroe[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Gwasg Prifysgol Faroe - Fróðskapur - yn 2005.[5] Mae'n cyhoeddi gwaith o bob maes gwyddonol yn Ynysoedd Ffaröe. Mae'r cyhoeddiadau yn Ffraroeg, Saesneg a Daneg. Mae Wasg yn parhau â thraddodiad cyhoeddi Cymdeithas Gwyddoniaeth a Llythyrau Ffaroeaidd o gyfnod 1952-2005. Mae'r Wasg yn eiddo i Brifysgol yr Ynysoedd Ffaroe a Chymdeithas Gwyddoniaeth a Llythyrau Ffaroeaidd.

Mae tair cyfres o gyhoeddiadau:

Annales Societatis Scientiarum Faeroensis - Supplementa. Mae'r gyfres hon yn cynnwys traethawd ymchwil doethurol a chyhoeddiadau eraill sy'n cael eu hadolygu gan arbenigwyr - cyhoeddwyd 59 o lyfrau yn y gyfres hon ers 1952
Fróðskaparrit - adolygiad blynyddol gydag erthyglau yn Saesneg yn bennaf ym maes gwyddorau naturiol, yn Ffaroeg neu Daneg ym maes y dyniaethau. Mae 60 rhifyn wedi'u cyhoeddi ers 1952
Cyhoeddiadau eraill - adroddiadau cynhadledd, festschrifts a chyhoeddiadau gwyddonol eraill

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The history". University of the Faroe Islands. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2014. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 https://www.setur.fo/en/
  3. https://www.setur.fo/en/the-university/departments/[dolen marw]
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-03. Cyrchwyd 2019-04-03.
  5. https://www.setur.fo/en/the-university/faroe-university-press/