Islandeg
Gwedd
| Islandeg (íslenska) | |
|---|---|
| Siaredir yn: | Gwlad yr Iâ, rhannau o Ganada (Manitoba) |
| Parth: | Gwlad yr Iâ |
| Cyfanswm o siaradwyr: | 314,000 |
| Safle yn ôl nifer siaradwyr: | |
| Achrestr ieithyddol: | Indo-Ewropeaidd |
| Statws swyddogol | |
| Iaith swyddogol yn: | Gwlad yr Iâ |
| Rheolir gan: | Íslensk málstöð |
| Codau iaith | |
| ISO 639-1 | is |
| ISO 639-2 | isl |
| ISO 639-3 | isl |
| Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd | |
Un o ieithoedd Germanaidd gogleddol yw Islandeg (Islandeg Íslenska [ˈistlɛnska]). Fe'i siaredir yng Ngwlad yr Iâ gan ryw 314,000 o bobl. Mae hi'n perthyn yn agos at Ffaröeg a Norwyeg Orllewinol. Mae'r iaith yn fwy ceidwadol na mwyafrif o ieithoedd eraill Gorllewin Ewrop, a chan nad yw'r iaith ysgrifenedig wedi newid llawer, gall siaradwyr Islandeg ddarllen llenyddiaeth Hen Norseg glasurol a grëwyd yn y 10fed trwy'r 13g (fel yr Eddas a'r sagas) yn gymharol hawdd.
Mae llenyddiaeth Islandeg ganoloesol yn gyfoethog ac yn cynnwys rhai o'r sagas enwocaf.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod] Argraffiad Islandeg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd

