Uchel Islandeg
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | Iaith artiffisial |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | Tachwedd 2003 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith artiffisial wedi'i seilio ar fersiwn eithafol bur o Islandeg fodern yw Uchel Islandeg (Háfrónska). Fe’i henwyd ar ôl "høgnorsk" (Uchel Norwyeg), ffurf geidwadol o’r Norwyeg. Deillia "frónska" o’r gair "fron", yr enw barddonol am Wlad yr Iâ, un o’r enwau am yr ynys a grybwyllir yn yr Edda. Yn Uchel Islandeg mae pwyslais ar “málgjörhreinsun” (purdeb eithafol), y ffurf fwyaf eithafol o burdeb ieithyddol. Pétur Þorsteinsson yw cadeirydd mudiad iaith Uchel Islandeg. Nid oes gan yr iaith unrhyw statws swyddogol yng Ngwlad yr Iâ, ac nid oes ganddi ddim siaradwyr rhugl.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Canolfan Iaith Uchel Islandeg Archifwyd 2012-05-24 yn archive.today