Hafnarfjörður

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Arfbais Hafnarfjörður
Hafnarfjordur

Mae Hafnarfjörður yn borthladd a bwrdeisdref a leolir yn ne orllewin Gwlad yr Iâ oddeutu 10 km (6 mi) i'r de o'r brifddinas, Reykjavík. ystyr Hafnarfjörður yw harbwr fjord yn Islandeg.

Dyma trydydd dref mwyaf poblog yr ynys gan ddilyn Reykjavík a Kópavogur. Mae'r bwrdeisdref yn rhan o Reykjavík Fawr. Ceir yno ddiwydiant, amrywiaeth o weithgaredd trefol a digwyddiadau diwylliannol.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Hafnarfjörður tua 1900, Casgliad Ffotograffau o Wlad yr Iâ ac Ynysoedd y Ffaroe, Frederick W.W. Howell, Cornell University Library

Enwir y dref am y tro cyntaf yn yr Oesoedd Canol yn adroddiadau'r Landnámabók, a ceir yr adroddiadau cynharaf am fordeithiau i'r dref o ddiwedd 14g. Dechreuodd y Saeson fasnachu yn Hafnarfjordur yn y 15g, ond dilynodd masnachwyr Almaen yn eu tro ac yn y pen draw, gyrru'r Saeson allan. Codwyd yr eglwys Lutheraidd gyntaf yng Ngwlad yr Iâ yn Háigrandi, gyferbyn ag Óseyri, ychydig y tu allan i harbwr y cychod bychain. Bodolai cynghrair masnachwyr Hansa yn y dref tan 1602. Wedi hyn sefydlodd y frenhiniaeth Denmarc fonopoli masnach Daneg dros Wlad yr Iâ, a barodd hyd ddiwedd y 18g. Yn ystod y cyfnod hwn, Hafnarfjörður oedd canolfan fasnach prysuraf y genedl.

Ym 1793, setlodd Bjarni Sívertsen yma a daeth yn ddylanwadol mewn masnach leol a masnach ryngwladol, gan sefydlu gweithrediad pysgota masnachol mawr. Cafodd ei alw'n "dad Hafnarfjörður" a'i enwi "Syr Bjarni." Tua 1870, cynhaliwyd newidiadau dramatig yn pysgota Gwlad yr Iâ wrth i'r trigolion ddilyn y duedd gynyddol o ddefnyddio cychod â dec yn hytrach na chychod rhwyfo. Arweiniodd hyn at twf cyflymach, ac ennill y dref statws dinesig swyddogol yn 1908. Y maer cyntaf oedd Paul Einarsson, a ddaeth yn ddiweddarach yn faer Reykjavik.

Cwblhawyd y ffordd gyntaf rhwng y brifddinas yn 1898 ac adeiladwyd gorsaf ynni dŵr gyntaf yng Ngwlad yr Iâ yno yn 1904. Cafwyd y car cyntaf yn y dref yn 1913.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, ychwanegwyd trawlers mwy datblygiedig a nifer o longau modur at y fflyd bysgota. Heddiw, Hafnarfjörður yn un o ganolfannau pysgota mwyaf y genedl. Mae'r dref yw ail mewnforio harbwr fwyaf ar gyer mewnforio ac allforio yng Ngwlad yr Iâ.

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleoliad Hafnarfjörður o fewn Reykjavík Fawr

Mae dau glwb chwaraeon mawr yn Hafnarfjörður y gyntaf yw clwb Fimleikafélag Hafnarfjardar (FH) sydd wedi ennill uwch gynghrair pêl-droed Gwlad yr Iâ wyth gwaith rhwng 2004 a 2016 (2004-2005-2006-2008-2009-2012-2015-2016). Mae FH hefyd wedi ennill cynghrair Pêl-law Gwlad yr Iâ 25 gwaith ac wedi ennill y Cwpan 6 gwaith gan ei gwneud y tîm mwyaf llwyddiannus sy'n cystadlu â pêl-law yn y wlad.

Yr ail glwb yw Knattspyrnufélagið Haukar. Mae gan Haukar hanes godidog mewn pêl-law gyda nifer o deitlau. Haukar oedd y pencampwyr yn 1943, 2000, 2001, 2003, 2004, 2005, 2008, 2009, 2010 ac 2015 ac deiliaid cwpan yn 1980, 1997, 2001, 2002 a 2010.

Mae gan Hafnarfjörður hefyd glwb gymnasteg, Fimleikafélagið Björk, a sefydlwyd ar 1 Gorffennaf 1951.

Sefydlwyd clwb nofio lleol, Sundfélag Hafnarfjordur (SH), ar 19 Mehefin 1945. Mae'r clwb triathlon 3SH, yn rhan o'r clwb.

Mae Clwb Golff Keilir yn glwb golff 18 twll a chwrs wedi'i leoli ar benrhyn Hvalreyi.

Gwyliau Lleol[golygu | golygu cod y dudalen]

Poblogaeth 1910 - 2015
1910 1,547
1920 2,366
1930 3,591
1940 3,686
1950 5,087
1960 7,160
1970 9,696
1980 12,205
1990 15,151
2000 19,640
2010 25,913
2015 28,200

Dyddiau Llachar[golygu | golygu cod y dudalen]

Bob mis Mai, cynhelir y Gŵyl Dyddiau Llachar. Mae'r digwyddiad yn cynnwys ffilmiau byrion a chyngherddau i gydnabod morwyr Gwlad yr Iâ.

Gŵyl y Ficiniaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn flynyddol ar heuldro'r haf, cynhelir gŵyl y Llychlynwyr yn Hafnarfjörður. Decheuwyd yr ŵyl gan dafarn a bwyty lleol y Fjörukráin.

Pyllau Nofio[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan Hafnarfjörður dri pwll nofio, er gwaethaf ei phoblogaeth bychan. Mae hyn yn sefyllfa gymharol cyffredin yng Ngwlad yr Iâ oherwydd digonedd dŵr thermal cynnes.

Gefailldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Twin Cities of Tartu". ©2007 City of Tartu. http://tartu.ee/?lang_id=2&menu_id=13&page_id=1096. Adalwyd 2009-01-04.
  2. "Frederiksberg Municipality - Twin Towns" (yn Danish). ©2007 -2009. Archifwyd o y gwreiddiol ar 5 December 2012. https://archive.is/20121205030346/http://www.frederiksberg.dk/PolitikOgDemokrati/PolitikkerOgStrategier/Samarbejde/InternationaleSamarbejder/Venskabsbyer.aspx. Adalwyd 2009-09-09.