Alþingi

Oddi ar Wicipedia
Llywodraeth Gwlad yr Iâ
Alþingi Íslendinga
Coat of arms or logo
Gwybodaeth gyffredinol
MathUnsiambraeth
Arweinyddiaeth
LlefaryddEinar Kristinn Guðfinnsson, Plaid Annibynnol
ers 23 Mai 2013
Cyfansoddiad
Aelodau63
Strwythyr y Llywodraeth presennol
Grwpiau gwleidyddolY Llywodraeth (38)
     Y Blaid Ddatblygol (19)
     Y Blaid Annibynnol (19)

Yr Wrthblaid (25)

     Y Gynghrair Ddemocrataidd, Sosialaidd (9)
     Y Mudiad Gwyrdd, Asgell Chwith (7)
     Dyfodol Disglair (6)
     Plaid y Morladron (3)
Etholiadau
System bleidleisioRhestr pleidiau dan gynyrchioliad cyfrannol
Etholiad diwethaf27 Ebrill 2013
Man cyfarfod
Mae'r Llywodraeth yn eistedd yn yr Hen Balas Brenhinol yn Athen
Alþingishúsið
Austurvöllur
150 Reykjavík
Gwlad yr Iâ
Gwefan
Llywodraeth Gwlad yr Iâ

Senedd genedlaethol Gwlad yr Iâ yw'r Alþingi (seinir fel "Althing"). Dyma sefydliad seneddol hyna'r byd, sy'n dal i fodoli.[1] Cafodd ei sefydlu yn 930 yn Þingvellir, (sy'n golygu "maes y senedd") tua 45 km i'r dwyrain o'r hyn a adweinir, bellach, fel y brifddinas, Reykjavík. Hyd yn oed ar ôl yr Undeb gyda Norwy yn 1262 cynhaliodd yr Althing ei sesiynau yn Þingvellir hyd at 1799, pan gafwyd seibiant o 45 mlynedd. Cafodd ei ailgychwyn yn 1844 a'i symud i Reykjavík, sef ei gartref ers hynny. Codwyd adeilad y llywodraeth presennol, sef yr Alþingishús, yn 1881 allan o garreg o Wlad yr Iâ.

Mae cyfansoddiad y wlad yn nodi chwe etholaeth gyda'r posibilrwydd o seithfed, pe bai raid. Maent wedi eu diffinio'n fanwl mewn dogfennau cyfreithiol. Etholir naw cynrychiolydd ym mhob etholaeth ac ychwanegir at y nifer hwn drwy drefn nid annhebyg i'r hyn sy'n bodoli yng Nghymru drwy gynyrchioliad cyfrannol. Er mwyn derbyn aelodau ychwanegol o dan y drefn hon, mae'n rhaid i'r blaid gael dros 5% o'r bleidlais genedlaethol. Yng Ngwlad yr Iâ, mae'r nifer sy'n bwrw eu pleidlais yn uchel, ac fe welir dros 85% yn pleidleisio fel arfer; e.e. yn 2003 bwriodd 87.7% eu pleidlais.

Mae deddfwrfa Gwlad yr Iâ yn un dilyn model unsiambraeth; yr Alþingi yw'r unig siambr, does dim ail siambr fel sydd mewn gwladwriaethau eraill megis Iwerddon lle mae'r Oireachtas yn cynnwys Dáil Éireann a Seanad Éireann.

Y Llywydd presennol yw Einar K. Guðfinnsson.

Mae perthynas agos yn etymolegol a gwleidyddol rhwng yr Alþing a senedd Ynysoedd Ffaröe y Løgting.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]