F.C. København

Oddi ar Wicipedia
København
Enw llawnFootball Club København
Enw byrFCK
Copenhagen
Sefydlwyd1 July 1992; 31 o flynyddoedd yn ôl (1 July 1992)
MaesStadiwm Parken, Copenhagen
(sy'n dal: 38,065)
PerchennogParken Sport & Entertainment
CadeiryddBo Rygaard
Prif HyfforddwrStåle Solbakken
CynghrairSuperliga
2022–23Superliga, 1af
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd Cit
Tymor cyfredol

Clwb pêl-droed cymharol newydd a hynod llwyddiannus yw F.C. København (FC Copenhagen neu FCK - arddelir y talfyriad Saesneg Football Club ond enw brodorol Daneg, København gan y clwb) o brifddinas Denmarc, Copenhagen. Gelwir hefyd yn F.C. Copenhagen yn aml ar y cyfryngau ryngwladol. Yn eu hoes byr maent wedi ennill Superliga Denmarc sawl gwaith. Mae'r clwb yn rhan o'r cwmni Parken Sport & Entertainment, sydd hefyd yn berchen ar y clybiau pêl-law dynion a menywod FCK Handball.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y clwb ar 1 Gorffennaf 1992, o ganlyniad i gyfunio clwb Kjøbenhavns Boldklub (KB) (a sefydlwyd ym 1876) bu'n bencampwyr Denmarc 15 gwaith a'r pencampwr Daneg, Boldklubben 1903 (B 1903) (a sefydlwyd ym 1903), ill dau o'r brifddinas, Copenhagen. Defnyddiodd y clwb newydd, FCK drwydded B1903 i barhau yn yr adran gyntaf a defnyddiwyd safle'r KB gan yr ail dîm.

Mae'n chwarae yn y Stadiwm Parken, sydd hefyd yn gartref i dîm pêl-droed cenedlaethol Denmarc. Prif gystadleuydd hefyd yw'r clwb arall o'r brifddinas, Brøndby IF.[1]

FC Kobenhavn yn Ewrop[golygu | golygu cod]

Ffans gêm darbi FC København - Brøndby IF, 2014

Chwaraeodd FCK eu gêm Ewropeaidd gystadleuol gyntaf ar 16 Medi 1992, yng Nghwpan UEFA 1992-93, gan guro Mikkelin Palloilijat o'r Ffindir 10-1 cyn colli i AJ Auxerre o Ffrainc yn yr ail rownd. Yn eu gêm gyntaf erioed yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA, fe wnaethant guro Manchester United 1-0 gartref, trwy gôl yn y 73 munud gan Marcus Allbäck.

Ers hynny, mae'r clwb wedi dod yn y tîm Daneg mwyaf llwyddiannus mewn cystadleuaeth Ewropeaidd yn gyflym, gan gyrraedd cymal Grŵp Cynghrair Pencampwyr UEFA bedair gwaith a symud ymlaen i'r Rownd o 16 yn 2010–11.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Mascot y clwb, y Llew
Superliga Denmarc (15): 1992-93, 2000-01, 2002-03, 2003-04, 2005-06, 2006-07, 2008-09, 2009-10, 2010-11, 2012-13, 2015–16, 2016–17, 2018–19, 2021-22, 2022-23
Cwpan Denmarc (DBU Pokalen) (9): 1995, 1997, 2004, 2009, 2012, 2015, 2015–16, 2016–17, 2022-23
Cwpan Cynghrair Pêl-droed Denmarc (1): 1996
Super Cup Denmarc (3): 1995, 2001, 2004
Royal League (cystadleuaeth rhyng-Sgandinafaidd) (2): 2004-05, 2005-06
Cwpan Ørestad (2): 2000, 2002
Cwpan Copa del Sol (cwpan gemau gaeaf i dimau oedd â hoe gaeaf yn eu calendr genedlaethol): 1994

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Attendance season records Archifwyd 2009-08-13 yn y Peiriant Wayback. at NetSuperligaen.dk, which dates back to the Danish Superliga 1998-99, records the biggest crowd each year has been a derby between F.C. København and Brøndby.