Nuuk

Oddi ar Wicipedia
Nuuk
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth18,326 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1721 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Cuxhaven, Aalborg, Vantaa, Changchun, Bwrdeistref Huddinge, Reykjavík, Ushuaia, Bocas del Toro, Sorong, Amasya, Tórshavn, Oslo, Copenhagen, Bwrdeistref Stockholm, Helsinki, Lyngby-Taarbæk Municipality Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Kalaallisut Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSermersooq Edit this on Wikidata
SirSermersooq Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Ynys Las Yr Ynys Las
Arwynebedd686.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau64.175°N 51.7333°W Edit this on Wikidata
Cod post3900 Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas a thref fwyaf yr Ynys Las yw Nuuk (Daneg Godthåb).

Mae'n borthladd ar aber Ffiord Godthåb ac fe'i sefydlwyd yn 1721 gan ymsefydlwyr o Ddenmarc. Cyn hynny bu'n gartref i ymsefydlwyr Llychlynaidd a'r bobl frodorol. Y dinasoedd agosaf ato yw: Iqaluit a St. John's yng Nghanada a Reykjavík yn Gwlad yr Iâ.

Yn Ionawr 2013, roedd ganddi boblogaeth o 16,454,[1] gan ei gwneud yn un o'r prifddinasoedd lleiaf yn y byd, o ran poblogaeth.

Rhan o Nuuk o'r awyr, yn y gaeaf

Nuuk ydy'r gair yn yr iaith Kalaallisuteg am "bentir" gan fod safle'r ddinas ar ben eithaf y ffiord Nuup Kangerlua ar arfordir dwyreiniol Môr Labrador.

Mae ei lledred, (64°10' G) yn ei gwneud y brifddinas fwyaf gogleddol ar wyneb y ddaear.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae Llychlynwyr wedi byw yn Nuuk ers y ddegfed ganrif a chan yr Inuit o'r drydedd ganrif ar ddeg.

Sefydlwyd y ddinas ym 1729 gan y cenhadwr o Norwy, Hans Egede, o'r enw Godthåb, ar yr adeg pan oedd yr Ynys Las yn wladfa Norwyaidd. Hi oedd y ddinas gyntaf ar yr ynys, gyda ffurfiad Ewropeaidd.

Fel gweddill yr Ynys Las, mae Nuuk bellach yn cael ei phoblogi'n bennaf gan Inuit, ond hefyd gan Daniaid. Ym mis Tachwedd 2008, pleidleisiodd dinasyddion yn Nuuk gan fwyafrif llethol o blaid mwy o annibyniaeth o Ddenmarc, sy'n gweinyddu'r ynys.

Poblogaeth[golygu | golygu cod]

Roedd gan Nuuk yn 2010 boblogaeth o 15469 o drigolion. Mae Nuuk yn gartref i oddeutu chwarter cyfanswm poblogaeth Yr Ynys Las. Mae ei phoblogaeth yn cynnwys Ynys Las yn bennaf (80%) a Daniaid (14.5%). Mae poblogaeth Nuuk yn tyfu'n gyflym - fel y mae poblogaeth gyffredinol yr Ynys Las), yn enwedig ar ôl adeiladu'r Maes Awyr yn 2003, i'r gogledd-ddwyrain o Nuuk.

Poblogaeth Nuuk

Yr olygfa o fynyddoedd yr Ukkusissaq
Yr olygfa dros Fae Nuuk o fynyddoedd yr Ukkusissaq

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Greenland in Figures 2013. Statistics Greenland. ISBN 978-87-986787-7-9. ISSN 1602-5709. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-12-26. Cyrchwyd 5 September 2013.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]