Lledred

Oddi ar Wicipedia
Y linell glas yw'r cyhydedd, y llinellau dotiog glas yw'r llinellau lledred a'r llinellau melyn yw'r llinellau hydred

Mae lledred yn linell dychmygol ar wyneb y ddaear sydd yn gyfochrog â'r cyhydedd. Mae'r cyhydedd ar ledred o 0° ac mae pegynnau'r gogledd a'r de ar ledred o 90°.

Lledredau pwysig eraill yw Trofan Cancr (23°27' gogledd), Trofan yr Afr (23°27' de), y Cylch Arctig (66°33' gogledd) a'r Cylch Antarctig (66°33' de). Dim ond rhwng y trofannau mae'r haul yn mynd i'w anterth, a dim ond i'r gogledd o'r Cylch Arctig (neu i'r de o'r Cylch Antarctig) gall yr haul ddisgleirio am hanner nos.

Ar gyfer unrhyw man ar wyneb y Ddaear, mae'r lledred yn penderfynu hinsawdd yr ardal, os gellir weld awrora neu beidio, o ble mae'r gwynt yn chwythu fel arfer a nifer o nodweddiadau eraill.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]