Awrora

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gwawl y De (Aurora australis) o loeren yr ISS, 2017.

Goleuni naturiol yn wybren y Ddaear, i'w gweld yn bennaf ym mhegynau'r Ddaear (o gwmpas yr arctig a'r antarctig, yw awrora (lluosog: awrorau). Yn y gogledd, mae weithiau yn cael ei gyfeirio ato fel gwawl y gogledd, goleuni'r gogleddffagl yr arth neu goleufer (aurora borealis). Yn y de, mae'n cael ei alw'n gwawl y de neu goleuni'r de (aurora australis).

Mae awrorau yn cael eu cynhyrchu pan fydd y magnetosffer yn cael ei gyffroi gan wynt solar i'r graddau bod llwybr gronynnau sydd wedi'u gwefru yn y gwynt solar a'r plasma magnetosfferig, yn bennaf ar ffurf electronau a protonau, yn eu hyrddio i'r uwch atmosffer (thermosffer/ecsosffer) oherwydd maes magnetig y Ddaear, ble mae eu hegni yn cael ei golli.

Mae'r ïoneiddio a chyffroad y cyfansoddion atmosfferig o ganlyniad yn pelydru goleuni o wahanol liwiau a chymhlethdod. Mae ffurf yr awrora, sydd i'w weld o fewn i stribynau o amgylch y pegynau, hefyd yn dibynnu ar gyflymiad y groynnau sy'n cael eu hyrddio. Mae protonau fel arfer yn cynhyrchu tywyniadau optegol fel atomau hydrogen digwyddol ar ol ennill electronau o'r atmosffer. Mae awrorau proton fel arfer i'w gweld ar ledredau is.[1]

Mae'r gair "awrora" yn tarddu o'r gair Lladin am "gwawr", gan fod cred ar un adeg mai golau cyntaf y wawr oedd awrorau.

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]