Sofia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Sofia. Ei arwyddair yw Tyf ond ni heneiddia.

Prifddinas a dinas fwyaf Bwlgaria yw Sofia (Bwlgareg София / Sofia, Lladin Serdica). Lleolir yng ngorllwein Bwlgaria ger troed Mynydd Vitosha. Hi yw canolfan wleidyddol, ddiwylliannol a diwydiannol y wlad. Ei boblogaeth yw 1,377,531 (2006) (Cyfrifiad 2001: dinas: 1 170 842, dinas a rhanbarth: 1,444,082).

Hanes y ddinas[golygu]

Mae tystiolaeth archaeolegol yn dangos bod pobl yn byw ar safle dinas Sofia ers y seithfed ganrif CC, sy'n golygu mai un o ddinasoedd hynaf Ewrop yw hi. Ei henw wreiddiol oedd Serdica, ar ôl y Serdi, y llwyth Thracaidd oedd wedi sefydlu'r ddinas. Goresgynnod y Rhufeiniaid yr ardal yn OC 29. Blodeuodd o dan eu rheolaeth, gan ddod yn prifddinas i dalaith Rufeinig Dacia Mediterranea. Mae olion y magwyr Rhufeinig i'w gweld mewn gwahanol fannau ar draws y ddinas hyd heddiw.

Egwlys Aleksandr Nevskii, Sofia (1904-12).

Yn yr oesoedd canol, daeth Sofia yn rhan o Deyrnas Gynta'r Bwlgariaid o dan Khan Krum yn 811. Ei henw erbyn hyn oedd Sredets, ffurf Slafoneg ar ei henw Lladin. Daeth yn gaer pwysig ac yn ganolfan wleidyddol a masnachol. Ailenwyd y ddinas yn Sofia ym 1376 ar ôl Eglwys Santes Sofia.

Cipiwyd y ddinas gan yr Otomaniaid ym 1386. Er iddi ddod yn gartref i beylerbey (llywodraethwr rhanbarthol) Rwmelia, roedd yn dirywio'n raddol. Erbyn 1878, dyddiad ei rhyddháu gan y Cadfridog Rwsieg Iosip Gurko, doedd ganddi ond ugain mil o drigolion. Yng nhyfarfod cynta'r Cynulliad Cyfansoddol yn Veliko Tarnovo ym 1879, datganwyd Sofia yn brifddinas y dywysogaeth. Adeiladwyd Egwlys Sant Aleksandr Nevskii, un o adeiladau mwyaf nodedig y ddinas, er anrhydedd i'r mliwyr Rwsieg a'i rhyddhaodd. Yn y cyfnod ar ôl annibyniaeth, dechreuodd y ddinas ddiwygio a daeth mwy o bobl yno i fyw. Erbyn 1939, roedd poblogaeth y ddinas wedi tyfu hyd at 300,000.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Sofia ei bomio'n drwm gan awyrennau'r Cynghreiriaid. Ar ôl cyhoeddiad rhyfel yn erbyn Bwlgaria gan yr Undeb Sofietaidd, meddiannwyd y ddinas gan y Fyddin Goch ym 1944, a daeth yn brifddinas i Weriniaeth Pobl Bwlgaria tan chwyldro 1989.

Gefeilldrefi[golygu]