Bursa
Gwedd
| Math | bwrdeistref fetropolitan Twrci, dinas fawr, metropolitan municipality, dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 2,901,396 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC+03:00, EET |
| Gefeilldref/i | Darmstadt, Denizli, Kars, Multan, Oulu, Sofia, Tiffin, Kairouan, Gogledd Nicosia, Anshan, Bitola, Ceadîr-Lunga, Kyzylorda, Mascara, Algeria, Kulmbach, Pleven, Plovdiv, Prishtina, Tirana, Košice, Vinnytsia, Van, Rabat, Bakhchysarai, Oskemen, Herzliya, Mykolaiv, Sarajevo, Xanthi, Simferopol, Tlemcen, Chiang Mai, Магілёў |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tyrceg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bursa, Hudavendigar vilayet |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 11,043 km² |
| Uwch y môr | 100 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 40.1913°N 29.0805°E |
| Cod post | 16000 |
![]() | |

Dinas hynafol yng ngorllewin Twrci yw Bursa. Dyma Prusa neu Brusa yr Henfyd (Groeg: Προύσα, Prousa). Mae'n brifddinas y dalaith o'r un enw. Gyda phoblogaeth o 1,562,828 yn 2007, Bursa yw dinas bedwaredd fwyaf Twrci sydd hefyd yn un o ganolfannau diwylliannol a diwydiannol pwysicaf y wlad honno. Gorwedd Bursa ar lethrau gogledd-orllewinol cadwyn o fynyddoedd a ddominyddir gan Fynydd Uludağ, yn agos i lan Môr Marmara, i'r gogledd. Ei llysenw gan y Tyrciaid yw "Yeşil Bursa" ("Bursa Werdd"), oherwydd y toau teiliau gwyrdd niferus sydd i'w cael yn yr hen ddinas. Mae rheilffyrdd yn ei chysylltu ag Istanbwl, Ankara ac Izmir.
Alltudiwyd yr arweinydd Algeriaidd Abd El-Kader i'r ddinas yn 1852. Yn nes ymlaen, symudodd i Damascus.
Oriel
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Twrceg) Cyngor Bursa
