Istanbul
Istanbul (Twrceg: İstanbul, hefyd 'Stamboul; Cymraeg: Caergystennin) yw dinas fwyaf Twrci a'i ganolfan ddiwyllianol a masnachol bwysicaf. Cyn i Ataturk ei symud i Ankara yn 1923, Istanbul oedd prifddinas y wlad. Yr hen enwau arni oedd Constantinopolis neu Constantinople (Groeg: Κωνσταντινούπολις, Twrceg: Konstantinopolis), cyn 1930, a Byzantium yng nghyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd. Heddiw, mae tua 11 i 15 miliwn o bobl yn bwy ynddi. Saif ar lannau Culfor Bosphorus ac mae'n amgae'r harbwr naturiol a adnabyddir fel y Corn Euraidd (Twrceg: Haliç, Saesneg Golden Horn). Mae rhan o'r ddinas ar dir Ewrop (Thrace) a'r gweddill yn Asia (Anatolia); hi yw'r unig ddinas fawr yn y byd sy'n sefyll ar ddau gyfandir. Mae'n brif ddinas Talaith Istanbul yn ogystal.
Istanbul yw'r unig ddinas yn hanes y byd sydd wedi bod yn brifddinas i dair ymerodraeth wahanol, sef yr Ymerodraeth Rufeinig (330-395), yr Ymerodraeth Fysantaidd (395-1453) ac Ymerodraeth yr Otomaniaid (1453-1923). Mae'r ddinas wedi cael ei dewis yn Brifddinas Diwylliant Ewropeaidd am 2010. Ychwanegwyd rhannau hanesyddol yr hen ddinas, ar y lan Ewropeaidd, at Restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1985.
Hinsawdd[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gan Istanbul hinsawdd is-drofannol llaith, gyda 808 mm o wlybaniaeth y flwyddyn.[1][2][3]
Yn gyffredinol, mae'r hafau yn boeth ac yn glos gyda thymheredd cyfartalog o 26 – 28 °C a thymheredd isaf o 16 – 19 °C.[3] Fodd bynnag, mae'r tymheredd yn pasio 32 °C am tua 5 diwrnod bob haf.[3] Ond nid haf yw'r graddau o difrifol a hir y gorllewin a'r de Twrci.
Tuedda'r gaeafau i fod yn oer, gyda thymheredd uchaf cyfartalog o 8 – 10 °C a thymheredd isaf o 3 – 5 °C, ond gall y tymheredd ostwng cymaint a'r −5 °C am rai dyddiau.[3] Weithiau gall y tymheredd godi i hyd at y 15 °C yn ystod y gaeaf.[3] Eira a rhew yn gyffredin yn y gaeaf. Ar gyfartaledd ceir yno 19 o ddiwrnodau o eira yn flynyddol, ac ar gyfartaledd ceir yno 21 o ddiwrnodau o rhew yn flynyddol.[3]
Cyfnewidiol yw'r tywydd yn y gwanwyn a'r hydref, a gall fod yn oer neu'n gynnes, er fod y cyfnodau hyn yn bleserus gan amlaf oherwydd y lleithder isel.[3]
| Mis | Ion | Chwe | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gor | Aws | Med | Hyd | Tach | Rhag | Cyfartaledd Blwyddyn |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Uchafbwynt cyfartalog °C | 8.5 | 9.0 | 10.8 | 15.4 | 20.0 | 24.5 | 26.5 | 26.7 | 23.6 | 19.1 | 14.7 | 10.8 | 17.47 |
| Cyfartaledd °C | 5.6 | 5.7 | 7.0 | 11.1 | 15.7 | 20.4 | 22.8 | 23.0 | 19.7 | 15.6 | 11.4 | 8.0 | 13.83 |
| Isafbwynt cyfartalog °C | 3.2 | 3.1 | 4.2 | 7.7 | 12.1 | 16.5 | 19.5 | 20.0 | 16.8 | 13.0 | 8.9 | 5.5 | 10.88 |
| Dyodiad mm | 105.3 | 77.3 | 71.8 | 44.9 | 34.1 | 34.0 | 31.6 | 39.8 | 57.9 | 87.7 | 101.3 | 122.6 | 808.3 (Cyfanswm dyodiad) |
| Ffynonellau:Weatherbase – Istanbul Swyddfa Feteorolegol Twrceg. | |||||||||||||
Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Caferağa Medresseh
- Cumhuriyet Anıtı
- Eglwys Pammakristos
- Hagia Sofia
- Haseki Hürrem Sultan Hamamı
- Mosg Glas
- Obelisg Theodosius
- Palas Dolmabahce
- Palas Ihlamur
- Palas Maslak
- Palas Topkapi
- Palas Yildiz
- Tŵr Galata
- Tŵr GarantiBank
Pobl o Istanbul[golygu | golygu cod y dudalen]
- Constantine Mavrocordatos (1711-1769), Tywysog Wallachia
- Alexander Ypsilantis (1725–1805), Tywysog Wallachia
- Halide Edip Adıvar (1884-1964), nofelydd a gwleidydd
- Bülent Ecevit (1925-2006), gwleidydd ac awdur
- Hülya Koçyiğit (g. 1947), actores
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ World Map of the Köppen-Geiger climate classification University of Veterinary Medicine Vienna. Adalwyd 2009-01-31
- ↑ Climatetemps – Istanbul
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 Weatherbase – Istanbul Swyddfa Feteorolegol Twrceg. Adalwyd 2008-09-01