Môr Marmara
Gwedd
| Math | môr mewndirol |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Marmara Island |
| Cysylltir gyda | Y Môr Du, Y Môr Canoldir |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Y Môr Canoldir |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 11,350 km² |
| Cyfesurynnau | 40.75°N 28°E |
![]() | |

Môr sy'n cysylltu'r Môr Du a Môr Aegaea yw Môr Marmara (Twrceg: Marmara Denizi, Groeg: Θάλασσα του Μαρμαρά neu Προποντίς). Yn y cyfnod clasurol, gelwid ef y Propontis (Groeg: Προποντίς).
Mae Môr Marmara yn gwahanu than Ewropeaidd Twrci oddi wrth y rhan Asiaidd o'r wlad. Yn y gogledd mae culfor y Bosphorus yn arwain i'r Môr Du, tra yn y de-orllewin mae culfor y Dardanelles yn ei gysylltu a Môr Aegaea. Mae ganddo arwynebedd o 11,350 km², ac mae'n 1,370 medr o ddyfnder yn ei fan dyfnaf.
Daw'r rnw oherwydd bod Ynys Marmara yn y môr yma yn cynhyrchu marmor (Groeg: marmaro). Ynys arall ym Môr Marmara yw İmralı, lle mae Abdullah Öcalan wedi ei garcharu.
