Y Môr Du

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun lloeren o'r Môr Du (NASA MODIS)
Y Môr Du ym Mwlgaria

Môr sy'n gorwedd rhwng de-ddwyrain Ewrop ac Asia Leiaf ydy'r Môr Du (Pontus Euxinus y Groegiaid). Mae'n cysylltu â'r Môr Canoldir trwy gulfor Bosporus a Môr Marmara, ac â Môr Azov trwy Gulfor Kerch.

Trwy'r Bosporus mae 200 km² o ddŵr hallt yn llifo i mewn i'r Môr Du bob blwyddyn, ac mae tua 320 km² o ddŵr ffres y flwyddyn yn dod o'r ardaloedd o gwmpas y Môr Du, yn bennaf o ddwyrain a chanolbarth Ewrop. Yr afon fwyaf sydd yn llifo i'r Môr Du yw Afon Donaw. Maint arwynebedd y Môr Du yw 422,000 km², a'i ddyfnder mwyaf yw 2210m.

Y gwledydd o gwmpas y Môr Du yw Twrci, Bwlgaria, Romania, Wcráin, Rwsia a Georgia. Gweriniaeth hunanlywodraethol sydd yn perthyn i'r Wcráin yw'r Crimea.

Mae'r dinasoedd mwyaf ar arfordir y Môr Du yn cynnwys Istanbul (Caergystennin neu Byzantium gynt), Burgas, Varna, Constanta, Tulcea, Yalta, Odessa, Sevastopol, Batumi, Trabzon, Samsun a Zonguldak.

Daeareg[golygu]

Y Môr Du yw'r system morol heb ocsigen mwyaf yn y byd am ei fod yn ddwfn iawn gyda dim ond mymryn o halen ynddi. Nid yw'r dŵr ffres a'r dŵr hallt newydd sy'n llifo i'r môr ddim yn cymysgu â'r hen ddŵr ond yn haen uchaf ei ddyfroedd, hyd at ddyfnder o 100m i 150m. Nid yw'r dŵr sydd yn ddyfnach na hynny yn newid ond unwaith mewn mil o flynyddoedd. O ganlyniad, dim ond ychydig o ocsigen sy'n mynd i lefelau dwfn y môr ac mae mater organaidd sydd yn pydru ar waelod y môr a'r gwaddodiadau yn treulio pob mymryn o ocsigen sydd ar gael.

Am fod cyn lleied o ocsigen yn y dŵr, gall micro-organebau sy'n defnyddio sylffad i dorri mater organebol i lawr ac yn cynhyrchu hydrogen sylffid (HS) a charbon deiocsid fyw yn yr haen dyfnaf. Wrth gwrs, mae amgylchedd fel hyn yn wenwynol iawn i'r mwyafrif o blanhigion ac anifeiliaid ac felly mae'r rhan fwyaf ohonynt yn byw yn yr haen uchaf.

Hanes[golygu]

Mae rhai arbennigwyr yn meddwl mai'r tiroedd o amgylch y Môr Du oedd cartref gwreiddiol y Proto-Indo-Ewropeaidd, ond mae eraill yn meddwl fod hynny i'w lleoli rhywle yng nghyffiniau Môr Caspia.

Ym 1997 cyhoeddwyd damcaniaeth gan William Ryan a Walter Pitman o Prifysgol Columbia fod gorlif fawr iawn wedi rhedeg trwy'r Bosporus tua'r flwyddyn 5600 CC. Milau o flynyddoed cyn hynny roedd dŵr oedd yn dod o rewlifau wedi toddi yn llifo i'r Môr Du a Môr Caspia a fel hynny roedd eu lefelau'n codi. Pan ddiflanodd y rhewlifau aeth dŵr yr afonydd yn llai a gostyngodd lefelau'r Môr Du a'r Môr Caspia eto. Ar ôl hynny, o gwmpas 5600 C.C., cododd lefelau'r moroedd eraill a gorlifodd y Môr Canoldir i'r Môr Du. Mewn canlyniad roedd tua 155,000 km² (tua 60,000 milltir²) o dir dan dŵr a newidiwyd y Môr Du o lyn dŵr ffres i fôr dŵr hallt.

Mae'n debyg i'r bobl a oedd yn dianc am eu bywyd ffoi i'r gogledd-orllewin i Ewrop a lledaenu amaethyddiaeth yno. Mae'n bosib hefyd fod y cof am y gorlif hon wrth wraidd y traddodiad am y Dilyw yn y Beibl.

Darganfu'r archaeolegydd Robert Ballard draethlinau hynafol, cregyn malwod dŵr ffres, dyffrynnoedd hynafol a choed wedi ei siapio gan offer yn nyfroedd y Môr Du hyd at ddyfnder o 100m (300 troeddfedd) i lawr ger arfordir Twrci.

Enwyd y môr yn Fôr Du gan forwyr Groegaidd cynnar am fod ei liw yn dywyllach na hynny'r Môr Canoldir. Mewn wirionedd, ni ellir weld ond hyd at 5m (15 troeddfedd) i lawr yn y Môr Du, ond gellir gweld hyd at 30m (100 troeddfedd) i lawr yn y Môr Canoldir.