Odesa
| Math | dinas yn Wcráin |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Odessos |
| Poblogaeth | 1,010,537 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Hennadiy Trukhanov |
| Cylchfa amser | UTC+03:00, UTC+2, EET |
| Gefeilldref/i | Tbilisi |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Odesa Agglomeration |
| Sir | bwrdeistref Odesa |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 236.9 km² |
| Uwch y môr | 40 ±1 metr |
| Gerllaw | Gwlff Odesa |
| Yn ffinio gyda | Kryzhanivka, Lymanka |
| Cyfesurynnau | 46.5°N 30.7°E |
| Cod post | 65000–65480 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Odesa |
| Pennaeth y Llywodraeth | Hennadiy Trukhanov |
![]() | |
Odesa (Wcreineg: Одеса) yw'r ddinas bedwaredd fwyaf yn Wcráin. Mae ganddi boblogaeth o rhwng 1,029,000 (cyfrifiad 2001) a 1,080,000 (amcangyfrif 2008). Mae'r ddinas yn borthladd pwysig, y mwyaf yn y wlad, sy'n gorwedd ar lan ogleddol y Môr Du.

O 1819 hyd 1858 roedd Odesa yn borthladd rhydd (porto franco). Yn y cyfnod Sofietaidd Odesa oedd porthladd pwysicaf yr Undeb Sofietaidd ac roedd hefyd yn wersyll llynges fawr. Yn y 19g, hon oedd y bedwaredd ddinas yn y Rwsia Imperialaidd, ar ôl Moscfa, Saint Petersburg, a Warsaw. Heddiw ceir dau borthladd yn ninas Odesa: Odesa ei hun a Yuzhny (sydd hefyd yn borthladd olew), sy'n gorwedd ym maesdrefi'r ddinas. Ceir porthladd pwysig arall yn oblast Odesa, sef Illichivs'k (Ilyichyovsk), i'r de-orllewin o Odesa. Gyda sawl rheilffordd yn rhedeg o'r ddinas hefyd, mae'n un o greosffyrdd cludiant pwysicaf y wlad. Ceir gweithfeydd prosesu olew a chemegion yn Odesa hefyd, a gysylltir â rhwydweithiau Rwsia a'r Undeb Ewropeaidd trwy gyfres o bibellau strategol.
Dechreuodd y ddinas fel gwladfa Groegaidd. Mae ei hanes yn ddrych i hanes hir a chymhleth Wcráin a Rwsia.
Lleolir dinas Odesa ar res o fryniau sy'n codi ger harbwr naturiol bychan, tua 31 km (19 milltir) i'r gogledd o aber Afon Dniester a thua 443 km (275 milltir) i'r de o'r brifddinas, Kyiv. Mae'r hinsawdd yn gymhedrol a sych, gyda thymheredd ar gyfartaledd yn Ionawr o -2 °C (29 °F), a 22 °C (72 °F) yng Ngorffennaf. Ceir tua 350 mm (14 mod.) o law mewn blwyddyn.
Y brif iaith ar y stryd yw Rwseg, gyda'r Wcreineg yn llai cyffredin er ei bod yn iaith swyddol y wlad. Ceir cymysgfa o bobl o sawl cenedligrwydd a chefndir ethnig yno, yn cynnwys Wcreiniaid, Rwsiaid, Groegiaid, Iddewon, Moldofiaid, Bwlgariaid, Armeniaid, Georgiaid, Almaenwyr ac eraill.
Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2014-07-17 yn y Peiriant Wayback
