Dardanelles
| Math | culfor |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Helle, Dardanos |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Môr Marmara, Y Môr Du |
| Sir | Çanakkale |
| Gwlad | Twrci |
| Cyfesurynnau | 40.2°N 26.4°E |
| Hyd | 61 cilometr |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Important Bird Area |
| Manylion | |

Culfor sy'n gorwedd rhwng rhan Ewropeaidd Twrci a'r rhan Asiaidd (Asia Leiaf) yw'r Dardanelles (hen enw Groeg Hellespont; Tyrceg Çannakale Boğazi). Mae'n ffurfio sianel morwrol rhwng Môr Aegea a Môr Marmara sydd o bwys strategol mawr ers canrifoedd. Ei hyd yw tua 60 km (37 milltir). Ar ei letaf mae 3½ milltir yn gwahanu'r ddwy lan, ond dim ond tua hanner milltir yn y man cyfyngaf.
Yr Hellespont (Hellespontos) oedd ei enw yn Hen Roeg, ar ôl y cymeriad chwedlonol Helle, ferch Athamas a Nephele. Roedd yn enwog yn yr Henfyd am ei gysylltiad â chwedl Hero a Leander ac am y bont o gychod a godwyd gan Xerxes er mwyn i'w fyddin ei groesi. Roedd y wlad ar y lan Asiaidd yn dwyn yr un enw.
Yn y Rhyfel Byd Cyntaf gwelwyd brwydro mawr rhwng y Cynghreiriaid a lluoedd Twrci yn y Dardanelles, yn arbennig ar orynys Gallipoli.
