Plovdiv
| Math | large city, tref weinyddol ddinesig, tref weinyddol yr oblast, dinas ym Mwlgaria |
|---|---|
| Poblogaeth | 329,489 |
| Pennaeth llywodraeth | Kostadin Dimitrov |
| Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Bwlgareg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bwrdeistref Plovdiv |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 101.981 km² |
| Uwch y môr | 172 metr |
| Gerllaw | Maritsa |
| Cyfesurynnau | 42.142086°N 24.741454°E |
| Cod post | 4000 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Mayor of Plovdiv Municipality |
| Pennaeth y Llywodraeth | Kostadin Dimitrov |
![]() | |

Ail ddinas fwyaf Bwlgaria ar ôl Sofia yw Plovdiv (Bwlgareg Пловдив, Groeg Philippopolis / Φιλιππούπολη). Poblogaeth y ddinas yw tua 380,135 [1], a phoblogaeth rhanbarth Plovdiv yw 715,816 (Cyfrifiad 2001).

Mae pobl yn byw ar safle presennol Plovdiv ers 8000 o flynyddoedd. Yn 342 CC, goresgynnwyd y ddinas gan Philip II o Facedon, a'i gwnaeth yn brifddinas ei deyrnas gan ei hailenwi ar ôl ei hun yn Philippopolis (dinas Philip). Roedd Plovdiv, o dan ei enw Rhufeinig Trimontium (dinas y tri bryn), yn ddinas bwysig yng nghyfnod y Rhufeiniaid ac yn brifddinas i'r rhanbarth Rhufeinig Thracia. Yn y 1970au darganfuwyd amffitheatr Rufeinig odidog yno.
Bellach, Plovdiv yw canolfan weinyddol Rhanbarth Plovdiv yn ne Bwlgaria a thair bwrdeisdref (Plovdiv, Maritsa a Rodopi) ac ardal gynllunio Yuzhen tsentralen Bwlgaria. Mae'r ddinas yn bwysig o safbwynt economaidd, trafnidiaeth, diwylliannol ac addysgiadol. Mae Plovdiv hefyd yn cynnal digwyddiadau economaidd a diwylliannol fel Ffair Rhyngwladol Plovdiv, yr ŵyl theatrig rhyngwladol "A scene on a crossroad", a gŵyl deledu "The golden chest".
Lleolir Plovdiv yn rhan ddeheuol o Wastadir Plovdiv ar ddwy lan Afon Maritsa. Yn hanesyddol, mae'r ddinas wedi'i datblygu ar saith bryn syenit, gyda rhai ohonynt yn 250 m o uchder. Oherwydd y bryniau uchel hyn, weithiau cyfeirir at Plovdiv ym Mwlgaria fel "Dinas y Saith Bryn".
Oriel
[golygu | golygu cod]Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [General Directorate of Citizens' Registration and Administrative Services: Siart Poblogaeth ar gyfer Dinas Plovdiv, Bwlgaria ar 15 Awst, 2009. Adalwyd ar 2009-08-16
